Yr Hwb Adnoddau yw’r lle i chi fynd ato i gael adnoddau a gwybodaeth i’ch cefnogi mewn rhedeg grwp myfyrwyr, cliciwch ar adran isod i’w agor ac i gael rhagor o wybodaeth a dolenni.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag aelod y Tîm Cyfleoedd...
Ystafelloedd yn Adeilad yr Undeb
Gellir gweld pa ystafelloedd sydd ar gael trwy ein system archebu ystafelloedd ar-lein newydd. Gellir hefyd archebu ystafell yn uniongyrchol trwy’r system yma. Os oes unrhyw gwestiynau ynghylch archebu, cysylltwch ag undeb@aber.ac.uk
Yr ystafelloedd sydd ar gael:
- Y Prif Ystafell (lawrlwytho y ffurflen yma)
- Picturehouse yr UM (dim archebion cyn 4pm a ni ellir ond archebu sy’n addas i gynllun yr ystafell)
- Ystafelloedd Cyfarfod 1,2,3,4
- Ystafell 5
Mae mwy o wybodaeth ar y maint, y cyfleusterau sydd ar gael a gwybodaeth bwysig arall i’w chael trwy’r ddolen i’r system archebu ystafelloedd uchod.
Gellir archebu ystafell rhwng 9am ac 11pm Llun-Sad, a rhwng 11am ac 11pm ddydd Sul y tymor hwn. Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i glybiau a chymdeithasau gynnal stondin yn yr undeb, fel arfer, mae grwpiau yn manteisio ar y cyfle hwn i godi arian (ee gwerthu cacennau). Gellir trefnu hyn wrth Dderbynfa yr Undeb.
Pantycelyn
Neuadd breswyl Cymraeg ei hiaith yw Pantycelyn a chalon y gymuned Gymraeg i bob myfyriwr Aber. Mae’r adeilad yn cynnig ystod o ystafelloedd i grwpiau neu unigolion eu defnyddio.
Mae ein system archebu ystafelloedd yn gadael i chi weld pa ystafelloedd sydd ar gael a’u harchebu yn uniongyrchol trwy’r system yma. Os oes unrhyw gwestiynau ynghylch archebu, cysylltwch ag undeb@aber.ac.uk
Yr ystafelloedd sydd ar gael:
- Y Lolfa Fach
- Yr Ystafell Astudio
- Ystafelloedd Cyfarfod 1 a 2
- Ystafell Gyffredin Hyn
Gweler y ddolen i’r system archebu ystafel uchod i gael mwy o wybodaeth am faint, cyfleusterau a gwybodaeth bwysig arall.
Cyfleusterau'r Ganolfan Chwaraeon
Cysylltwch â Chydlynydd Chwaraeon yr UM, ar clybiauum@aber.ac.uk, neu ewch yn uniongyrchol i'r Ganolfan Chwaraeon ar chwaraeon@aber.ac.uk
Sylwer: Os nad yw'n rhan o'r cynllun Oriau Am Ddim, codir tâl o £25 yr awr (Llun-Gwener) a £35 yr awr (Sadwrn-Sul) am bob defnydd o gyfleusterau’r Ganolfan Chwaraeon.
Ystafelloedd y Brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau
Mae gan y Brifysgol ystod eang o ystafelloedd ar gael i'w harchebu; cliciwch yma i weld popeth sydd ar gael
Mae gan Ganolfan y Celfyddydau hefyd amryw o ardaloedd ar gael i grwpiau eu defnyddio. Cysylltwch â Chanolfan y Celfyddydau yn uniongyrchol drwy e-bostio artsadmin@aber.ac.uk
Mae gan Undeb y Myfyrwyr gerbydau lu i’ch grwp myfyrwyr ddefnyddio, gan gynnwys bysiau gwennol sy’n hygyrch i bobl anabl. Gweler y Canllaw isod i gael popeth sydd angen ei wybod am y Bws Gwennol.
I archebu gweler ein ffurflen archebu, neu i holi e-bostiwch: suminibus@aber.ac.uk
Pan yn archebu bydd rhaid i chi anfon: Enw’r grwp, enw’r gyrrwr, dyddiad a hyd yr archeb, maint y bws gwennol fydd orau, maint y grwp.
Dolenni defnyddiol:
Hyfforddiant i Bwyllgorau / Hyfforddiant Bach i Bwyllgorau
Bydd Hyfforddiant i Bwyllgorau ar gael ar y Bwrdd Du ar y 1af o Awst 2023 ymlaen!
Mae’r holl bwyllgor wedi cael ei gofrestru ar y modiwlau “Hyfforddiant Gwirfoddoli UMAber” felly y dylai ddod o dan y maes ‘Fy Sefydliadau’ ar hafan eich Bwrdd Du. Y Sesiwn Groesawu ddylai fod y man cychwyn i bob rôl bwyllgor, mae’n trafod yr wybodaeth bwysig sydd angen, ac yn eich cyfeirio at y sesiynau perthnasol ar gyfer eich rôl.
Ar y Bwrdd Du mae gan bob sesiwn ei ffeil ei hun sy’n cynnwys:
- Cyflwyniad Fideo
- Sleidiau PowerPoint
- Cwis (ceir ei ddefnyddio i nodi presenoldeb)
Dyma’r sesiynau sydd ar gael fel y canlyn, mae’r sesiynau lle mae’r rolau wedi’u hamlinellu yn golygu eu bod yn hanfodol i’r rolau honno:
- Sesiwn Groesawu – Gwybodaeth Bwysig a Chyflwyniad (pob pwyllgor)
- Gwefan Achredu Sêr y Tîm Aber a Chyfathrebu (Ysgrifennydd/Is-lywydd)
- Cyllid, Cyllidebu a Chodi Arian (Trysorydd a Llywydd)
- Lles Myfyrwyr, Amrywioldeb a Chynwysoldeb (Swyddog Llesiant neu unrhyw aelod pwyllgor arall)
- Trefnu Digwyddiad
- Ymddygiad, Rheolau a Disgwyliadau (Ysgrifennydd cymdeithasol neu aelod pwyllgor arall)
- Gwirfoddol a Swyddi yn y dyfodol
- Capteiniaid BUCS (capten a is-gapten)
Ni waeth os nad yw sesiwn yn berthnasol i’ch rôl, mae croeso i chi ei gwylio a dysgu!
Rydym hefyd yn cynnal y sesiynau hyfforddiant i bwyllgorau canlynol yn fyw:
Asesiad Risg Beth: Ceir ei gyflwyno gan Dîm Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, mae’r sesiwn hon yn trin gyda phopeth sydd rhaid i chi wybod am ysgrifennu asesiad risg effeithlon ar gyfer eich grwp.
Ble: Ar-lein trwy Microsoft Teams
Pryd: Mwy o ddyddiadau ar y gweill
Mynychu: mae’n rhaid bod o leiaf un person o bob clwb/cymdeithas yn mynychu (oherwydd niferoedd cyfyngedig rydym yn gofyn i un aelod pwyllgor yn unig fynychu o bob grwp)
Cofrestru: Cliciwch y ddolen yma (mwy o ddyddiadau yn fuan)
Cymorth Cyntaf Rhoddir dolen i’r sesiwn hon isod wrth i’r sesiwn fod ar gael!
Cofrestru: Cliciwch y ddolen yma (mwy o ddyddiadau yn fuan)
Os nad ydych chi’n gallu mynd i sesiwn, rhowch wybod i aelod y Tîm Cyfleoedd cyn gynted ag y bo modd.