Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina (fe/ei) - Llywydd Undeb

"Bayanda yw llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr Aberystwyth."

Eleni, bydd Bayanda yn canolbwyntio ar wella'r Undeb at y dyfodol a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.

E-bost: prdstaff@aber.ac.uk

Fy Rôl

 

Bydd Llywydd yr Undeb yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac unrhyw is-grwpiau perthnasol lle cyfeirir at hynny.
  • Sicrhau bod Tîm y Swyddogion yn adolygu materion allweddol myfyrwyr yn ogystal â materion cynrychioladol a gwleidyddol yn rheolaidd yn unol â'r aelodaeth bresennol
  • Sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu cynrychioli ac nad ydynt yn cael eu hallgau rhag UMPA
  • Datblygu ac asesu Cynllun Strategol UMPA ar y cyd â'r Prif Weithredwr.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Sicrhau y caiff Aelodau UMPA eu cynrychioli ar lefel genedlaethol drwy gydlynu ymgysylltiad ag UCM ac UCM Cymru.
  • Hyrwyddo gwaith ac amcanion UMPA yn gadarnhaol drwy weithredu fel llefarydd yr Undeb wrth ddelio â rhanddeiliaid a'r cyfryngau.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.

 

Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

 

  • Cyngor y Brifysgol
  • Senedd
  • Bwrdd Academaidd
  • Pwyllgor Buddsoddiadau
  • Bwrdd Recriwtio a Marchnata
  • Pwyllgor Rheoli Mauritius
  • Grwp Dyfarniadau er Anrhydedd

 


Blaenoriaethau Presennol

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Bayanda yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

 

Gweithio tuag at y polisi a benodwyd gan fyfyrwyr.

  • Dylai’r UM bleidio achos a sefyll gyda’r UCU gyda’i weithredu diwydiannol presennol.
  • Hyfforddiant cryfhau a chyflyru i chwaraeon
  • Dylai’r UM ymrwymo i Gynllun Effaith Werdd Undebau Myfyrwyr (GISU)

Codi llais Myfyrwyr Rhyngwladol a gweithio i’w cefnogi i gael amser positif yn Aberystwyth.

  • Cynnal nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn gan gynnwys Wythnos Fyd Eang (dyddiad heb ei gadarnhau).
  • Pleidio achos hawliau ac anghenion myfyrwyr rhyngwladol yng ngweinyddiaeth y Brifysgol.
  • Amrywio’r banc bwyd.

Gweithio dros fagu diwylliant gwrth-hiliol ar y campws.

  • Cynnal wythnos wrth-hiliol.
  • Creu dogfen sy’n amlinellu geirfa a ddefnyddir gan yr UM.
  • Trefnu gweithdai ynghylch gwrth-hiliaeth
  • Meithrin llefydd saff i fyfyrwyr sy’n hunaniaethu fel DALIE.

 

Dylai’r Brifysgol ac UMAber roi pen ar fancio gyda banciau sy’n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil a newid i fanc sy’n fwy gwyrdd a moesegol yn lle. *

----------

Dylai’r UM hyrwyddo a chefnogi’r UCU gyda’u gweithredu diwydiannol presennol. *

----------

Lleihau faint a brynir oddi wrth Amazon yn Undeb y Myfyrwyr. *

----------

Dylai’r UM ymrwymo i Undebau Myfyrwyr yr Effaith Werdd (S. Green Impact Students’ Unions). *

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576