Diwylliant Cymreig a UMCA

Elain Gwynedd (hi/ei) - Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

"Elain yw llais diwylliant Cymreig a myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth."

Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.

E-bost: cymraegum@aber.ac.uk

Fy Rôl

 

Bydd y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn gyfrifol am y canlynol:

  • Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod y polisi dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo.
  • Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â buddiannau siaradwy y Gymraeg a dysgwyr.
  • Cynrychioli anghenion yr aelodau mewn Neuaddau Preswyl cyfrwng Cymraeg.
  • Sicrhau bod UMPA yn cael ei gadw'n gyfoes ynghylch materion lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
  • Lobïo UCM i ddarparu cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. h. Cwrdd yn rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.

 

Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

 

  • Cyngor y Brifysgol
  • Senedd
  • Bwrdd Academaidd
  • Pwyllgor Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth
  • Pwyllgor Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
  • Grwp Gweithredol yr Iaith Gymraeg

 


Blaenoriaethau Presennol

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Elain yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

 

Rhedeg digwyddiadau ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr (ee Swn)

----------

Gwella presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol

----------

Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr Cymraeg

----------

Gwella Darpariaeth y Gymraeg mewn Modiwlau. *

----------

Dylai Prifysgol Aberystwyth roi’r gorau i fuddsoddi mewn Tanwyddau Ffosil. *

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576