Eleni, bydd Bayanda yn canolbwyntio ar wella'r Undeb at y dyfodol a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.
Bydd Llywydd yr Undeb yn gyfrifol am y canlynol:
- Cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac unrhyw is-grwpiau perthnasol lle cyfeirir at hynny.
- Sicrhau bod Tîm y Swyddogion yn adolygu materion allweddol myfyrwyr yn ogystal â materion cynrychioladol a gwleidyddol yn rheolaidd yn unol â'r aelodaeth bresennol
- Sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu cynrychioli ac nad ydynt yn cael eu hallgau rhag Undeb Aberystwyth
- Datblygu ac asesu Cynllun Strategol Undeb Aberystwyth ar y cyd â'r Prif Weithredwr.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth Undeb Aberystwyth i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Sicrhau y caiff Aelodau Undeb Aberystwyth eu cynrychioli ar lefel genedlaethol drwy gydlynu ymgysylltiad ag UCM ac UCM Cymru.
- Hyrwyddo gwaith ac amcanion Undeb Aberystwyth yn gadarnhaol drwy weithredu fel llefarydd yr Undeb wrth ddelio â rhanddeiliaid a'r cyfryngau.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Bayanda yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…