Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.
Bydd y Swyddog Llesiant yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
- Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant drwy gadeirio'r Parth Llesiant.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu llesiant myfyrwyr ymhellach.
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Helen yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.