Polisi Goddef Dim tuag at Wahaniaethu, Aflonyddwch ac Ymosodiadau Rhywiol

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 28/10/2024

Yn darfod ar: 28/10/2027

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Llesiant


Crynodeb

Yn cynnig i “Undeb Aber ymrwymo i flaenoriaethu lles myfyrwyr gan orfodi polisi goddef dim tuag at gwahaniaethu neu ymddygiad anaddas gan gynnwys aflonyddwch, ymosodiadau a bwlio rhywiol”

Manylion

“mae dau draean (6”%) o fyfyrwyr a graddedigion wedi profi trais rhywiol ym mhrifysgolion y DU a dim 2% o’r rheini a brofodd drais rhywiol oedd yn teimlo y gallent ei adrodd i’w prifysgolion ac oedd yn fodlon gyda’r broses adrodd (Arolwg Trais Rhywiol ac Ystafelloedd Myfyrwyr).”

Mae’n amlwg bod yna broblem ymysg cymunedau myfyrwyr.

Y llynedd, yn sgil hyn y mae’r broblem hon wedi gofyn am lawer o waith i ymdrechu dros fynd i’r afael â phynciau ynghlwm â chydsyniad a thrais rhywiol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys: datblygu arweiniad i glybiau a chymdeithasau gan olygu’r cod ymddygiad, ailgyflwyno’r ymgyrch ‘dim esgusodion’ a gweithio gyda’r brifysgol i ddatblygu’r polisi trais a chamymddwyn rhywiol (a’i roi ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd 2024/25). Wedi’r gwaith hwn, mae’n ymddangos yn hollol briodol y dylai’r Undeb wneud safiad, polisi ynglŷn â mynd i’r afael â gwahaniaethu ac aflonyddwch rhywiol. Mae gan yr Undeb berthynas gref barhaol gyda’r Gwasanaethau Myfyrwyr sy’n gyfrifol am ‘Adrodd a Chefnogi’ ac y mae wedi’i ailstrwythuro y gwasanaethau ar y campws i integreiddio system Swyddfa Gyswllt Trais Rhywiol. Mae’r ddarpariaeth bellach i’w chael ac wrthi’n gwella, byddai cyflwyno’r safiad hwn yn gadael i’r Undeb weithio fel cymuned gynhwysol i ymladd â’r broblem hon gan gynnig rhywle lle gall myfyrwyr drafod eu profiadau – rhywbeth hanfodol er eu lles a’u dyfodol yn y brifysgol. Rhyddhawyd datganiad yn erbyn casineb at fenywod ar ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, byddai gwneud y safiad hwn yn bolisi yn sicrhau bod y swyddogion yn cynnal safiad o oddef dim ar flaen eu holl waith dros y dair blynedd nesaf.

Ffynhonnell:

Revolt Sexual Assault & The Student Room. (2018). Report: Students' Experience of Sexual Violence. Retrieved from https://revoltsexualassault.com/wp-content/uploads/2018/03/Report-Sexual-Violence-at-University-Revolt-Sexual-Assault-The-Student-Room-March-2018.pdf

Cyflwynwyd gan: 


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

    

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Llesiant

Emily (Mo) Morgan

llesiantum@aber.ac.uk

   

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576