Deseb Gwasanaethau Golchdy am ddim I Breswylwyr Llawn Amser

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 29/04/2024

Yn darfod ar: 29/04/2027

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Crynodeb

Mae’r apêl yn gofyn i Gyngor Prifysgol Aberystwyth wneud y gwasanaethau golchi dillad ar y campws am ddim i breswylwyr, gan bwysleisio’r effaith y mae’n ei gael ar les myfyrwyr, pwysau ariannol, ac ymrwymiad y Brifysgol i gynwysoldeb a bodlondeb myfyrwyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen ennill enw da am fod yn sefydliad sy’n blaenoriaethu myfyrwyr, gan gyrraedd yr uchaf o ran bodlondeb myfyrwyr. Fodd bynnag, rydyn ni’r myfyrwyr isod, wedi sylwi ar rwystrau wrth fynd i’r afael â phryderon myfyrwyr, yn bennaf ynglyn ag amgylchiadau byw. Rydyn ni’n falch o fod yn aelodau y sefydliad hwn ac hoffem ni bwysleisio ymrwymiad y Brifysgol i les a bodlondeb myfyrwyr, ond credwch chi neu beidio, mae’r gwasanaethau golchdy yn rhwystr rhag symud ymlaen. Er mwyn cadw amgylchedd byw cefnogol, rydyn ni’n gofyn i’r gwasanaethau golchi dillad fod am ddim. Fel preswylwyr ar y campws, dylai’r hawl i olchi dillad am ddim fod yn rhan o’n ffioedd llety. Mae’r ffioedd presennol yn llawer uwch na’r hyn a geir mewn trefi neu brifysgolion eraill. Yn hynny o beth, mae llawer o brifysgolion eisoes yn cynnig gwasanaethau golchi dillad am ddim. Mae hyn yn lleddfu’r baich sydd ar fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel, neu’r rheini sy’n dibynnu ar ysgoloriaethau ac ar gymorth ariannol i astudio. Daw uniondeb ariannol o dan gategori o gynwysoldeb y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei hyrwyddo yn gyson, a ystyrid newid y gwasanaethau golchi dillad yn ffordd o fodloni anghenion myfyrwyr. Er mwyn ystyried pwysigrwydd golchi dillad, gadewch i ni feddwl am yr effaith y mae’n ei gael ar les myfyrwyr o ddydd i ddydd. Yn aml iawn mae myfyrwyr yn eu cael eu hunain yn peidio â bwyta a/neu yn canslo cynlluniau i gymdeithasu er mwyn trefnu golchi dillad o achos ei gostau, neu yn gweld pa mor hir y gallant barhau mewn dillad budr; byddai’r baich hyn yn codi yn sylweddol pe bai myfyrwyr yn gallu teimlo nad oes brys i’w wneud gan ei fod am ddim. Mae dillad glân yn rhan ynghlwm ag urddas a hunan-werth myfyriwr/wraig, Ni ddylai gael rheoli pryd y byddant yn cael bwyta, cymdeithasu, a mwynhau diddordebau ar sail dillad glân a’r arian i dalu am ddefnyddio’r golchdy. Dylid ystyried gwneud golchi dillad yn wasanaeth am ddim yn buddsoddi yn lles meddwl, emosiynol a chymdeithasol y boblogaeth fyfyrwyr. Rydym gofyn yn barchus i Brifysgol Aberystwyth arwain gan esiampl wrth roi myfyrwyr ar flaen ei blaenoriaethau. Diolch am eich amser ac am eich ystyriaeth.

Cyflwynwyd gan: Nadia Benjelloun

 

Diwygiad

Os bydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn methu â chytuno i weithredu Gwasanaethau Golchdy am Ddim i Breswylwyr Llawn Amser, dylai Undeb y Myfyrwyr lobïo bod Circuit Laundry, fel prif ddarparwr gwasanaethau golchdy, yn cael ei newid i wasanaeth mwy moesegol a chost isel (ond ansawdd da) fel opsiwn i fyfyrwyr.

Mae'r Brifysgol dan straen ariannol sylweddol a bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i arbedion mewn sawl maes o fywyd y Brifysgol. Gallai fod canlyniadau anfwriadol o weithredu gwasanaethau golchdy am ddim ar y campws, a gallai hyn gynnwys codi costau llety gan roi hyd yn oed mwy o galedi ariannol ar fyfyrwyr.

Felly, cynigiaf fel cyfaddawd y dylid rhoi’r gorau i Circuit Laundrette Services LTD fel darparwr gwasanaethau golchdy ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ac yn lle hynny, dylid cyflwyno gwasanaeth golchdy mwy moesegol a rhad (ond o ansawdd da).

Mae unrhyw un sydd wedi byw mewn llety myfyrwyr ar y campws wedi profi ansawdd gwael y gwasanaeth y mae Circuit Laundry yn ei ‘ddarparu’. Mae'r rhain yn amrywio o ddillad ddim yn cael eu golchi'n iawn, dillad ddim yn cael eu sychu'n iawn neu gymhlethdod a methiant y cerdyn neu'r ap golchi dillad! Yn ogystal, fel y mae'r syniad yn ei grybwyll, mae cost golchi a sychu yn eithafol. Mae'r gwasanaeth cwsmeriaid yn ofnadwy. A pheidiwch â cheisio cael eich arian yn ôl gan fod ad-daliadau ar gredyd heb ei ddefnyddio yn costio £3 o ffi weinyddol, ac ni allwch gael unrhyw beth yn ôl os yw dan £5.

Nid yw’r materion hyn yn unigryw i Aberystwyth ac mae llawer o Brifysgolion ledled y DU yn troi’r llanw ar Circuit ac yn newid i system well. Gadewch i ni wneud yn siwr ein bod yn cael gwasanaeth o’r ansawdd gorau yr ydym yn ei haeddu yma yn Aberystwyth a bod y gwasanaeth hwn naill ai am ddim neu mor rhad â phosibl.

Cyflwynwyd gan: Cai Phillips


Rhestr Weithredu

Camau a Gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

 


Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576