A ddylai Prifysgol Aberywtyth newid Starbucks gyda brand o goffi lleol sy’n fwy cynaliadwy

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 29/04/2024

Yn darfod ar: 29/04/2027

Statws: Rydym yn gweithio arno


Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Mae Prifysgol Aberystwyth yn gosod ei hun fel sefydliad sy’n ymwybodol o’r amgylchedd, sy’n cefnogi diwylliant ac economi Gymru. Felly mae ei phartneriaeth ag un o'r corfforaethau mwyaf a mwyaf niweidiol ar y Ddaear yn codi cryn gywilydd a deud y gwir.

Crynodeb:

Cawn wared ar Starbucks a rhoi cwmni coffi lleol a mwy cynaliadwy yn ei le.

Manylion:

Ar hyn o bryd, mae UM, y Neuadd Fwyd, ac Ysgubor yn Fferm Penglais mewn partneriaeth â Starbucks fel eu prif gyflenwr coffi. Mae'r tri dan reolaeth gwasanaethau lletygarwch y Brifysgol. Mae Starbucks yn enwog am dorri hawliau dynol a gwyrddgylchu ymrwymiadau i gynaladwyedd, heb sôn am ei fod yn gorfforaeth gwerth biliynau o bunnoedd sy'n cyfrannu dim i'r economi a chymdeithas leol. Yn y cyfamser, mae CaffiBach yn adeilad Gwendolyne Rees yn defnyddio Teifi Coffee, cwmni o Geredigion y mae ei linell gynhyrchu yn rhedeg yn gyfan gwbl oddi ar ynni adnewyddadwy, yn cefnogi prosiectau lleol, ac sydd mewn partneriaeth â Coed Cadw mewn cynllun cyfraniadau carbon.

Cyflwynwyd gan: Sam Hopkins


Rhestr Weithredu

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

 


Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576