Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 28/10/2024
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb
Manylion
Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr a Chynigion o Bleidlais o Ddiffyg Hyder
Rhagarweiniad
- Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr neu Gynigion o Bleidlais o Ddiffyg Hyder
1.1 Gellir galw Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr i benderfynu unrhyw fater.
2. Cynnig o Ddiffyg Hyder
2.1 Mewn Ymddiriedolwr:
Yn unol â'r Cyfansoddiad (cymal 62), mae angen cworwm o 500 o Aelodau i ddilysu Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr i basio Cynnig o Ddiffyg Hyder mewn Ymddiriedolwr, ac mae angen mwyafrif syml i gymeradwyo'r cynnig. 2.2 Mewn Swyddog Llawn Amser neu Wirfoddol:
Er mwyn pasio Cynnig o ddiffyg hyder mewn Swyddog Llawn-amser neu Wirfoddol, mae angen cworwm o 500 o Aelodau i ddilysu Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr ac mae angen mwyafrif syml i gymeradwyo'r cynnig.
2.1 Mewn Ymddiriedolwr (gan gynnwys Swyddogion Llawn Amser):
Gan gydymffurfio â’r Cyfansoddiad (cymal 62). Daw swydd Ymddiriedolwr i ben os caiff cynnig o Ddiffyg Hyder yn yr Ymddiriedolwr ei basio gan fwyafrif clir o Aelodau Cyffredin wrth gynnal Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr, ar yr amod bod o leiaf 500 Aelod Cyffredin wedi bwrw pleidlais yn achos Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr. Dim ond Deiseb Ddiogel am Bleidlais o Ddiffyg Hyder a all beri’r fath gynnig (yn cynnwys enw, rhif myfyriwr, a chyfeiriad e-bost y brifysgol) a honno wedi’i llofnodi gan 250 Aelod Cyffredin.
2.2 Swyddog Gwirfoddol a Etholir mewn Pleidlais ar draws y Campws:
Rhoddir y gorau i swydd Swyddog Gwirfoddol os caiff cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder ei basio gan fwyaf syml o Aelodau Cyffredin wrth gynnal Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr, ar yr amod bod o leiaf 500 Aelod Cyffredin wedi bwrw pleidlais yn achos Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr. Dim ond Deiseb Ddiogel am Bleidlais o Ddiffyg Hyder a all beri’r fath gynnig (yn cynnwys enw, rhif myfyriwr, a chyfeiriad e-bost y brifysgol) a honno wedi’i llofnodi gan 250 Aelod Cyffredin.
2.3 Swyddog Gwirfoddol a Etholir gan Bleidlais Gyfyngedig:
Lle caiff Swyddog Gwirfoddol ei ethol gan Bleidlais Gyfyngedig (fel yr amlinellir yn is-ddeddf yr etholiadau), rhoddir y gorau i swydd Swyddog Gwirfoddol os caiff cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder ei basio gan fwyaf syml o Aelodau Cyffredin cymwys, ar yr amod bod o leiaf 30% o Aelod Cyffredin cymwys wedi bwrw pleidlais. Dim ond Deiseb Ddiogel am Bleidlais o Ddiffyg Hyder a all beri’r fath gynnig (yn cynnwys enw, rhif myfyriwr, a chyfeiriad e-bost y brifysgol) a hynny wedi’i llofnodi gan 20% neu 250 Aelod Cyffredin cymwys. Caiff nifer y rhai cymwys ei mesuro gan ddefnyddio’r data diweddaraf ar gael gan y Brifysgol neu ddata ystadegol cenedlaethol os cheir data’r Brifysgol.
2.4: aelod Pwyllgor Grŵp Myfyrwyr
Daw swydd Aelod Pwyllgor Grŵp Myfyrwyr i ben os caiff cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder ei basio gan fwyaf syml o Aelodau Myfyrwyr y grŵp dan sylw wrth gynnal Pleidlais Grŵp Myfyrwyr, ar yr amod bod o leiaf 30% o aelodau’r grŵp myfyrwyr yn bwrw pleidlais. Dim ond Deiseb Ddiogel am bleidlais o ddiffyg hyder a all beri’r fath gynnig (gan gynnwys enw, rhif myfyriwr, a chyfeiriad e-bost y brifysgol) wedi’i llofnodi gan 20% o aelodaeth y grŵp hwnnw.
2.5: Cynrychiolydd Academaidd
Rhoddir y gorau i swydd Gynrychiolydd Academaidd os caiff cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder ei basio gan fwyaf syml o’r myfyrwyr y maent yn eu cynrychioli wrth gynnal Pleidlais Grŵp Myfyrwyr, ar yr amod bod o leiaf 30% o’r myfyrwyr perthnasol yn bwrw pleidlais. Dim ond Deiseb Ddiogel am bleidlais o ddiffyg hyder a all beri’r fath gynnig (gan gynnwys enw, rhif myfyriwr, a chyfeiriad e-bost y brifysgol) wedi’i llofnodi gan 20% o aelodaeth y grŵp hwnnw.
3. Polisi
3.1 Yn unol â'r Cyfansoddiad (cymal 45) mae angen cworwm o 500 o Aelodau i ddilysu Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr i gytuno ar bolisi a gyfeiriwyd at Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr gan fwrdd yr Ymddiriedolwyr, Pwyllgor Gwaith yr Undeb, Cyfarfod o'r Cynulliad, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu ddeiseb ddiogel, ac mae angen mwyafrif syml i gymeradwyo'r cynnig.
4. Cyfrifoldebau
4.1 Y Swyddog Etholiadau, neu ei Ddirprwy, a hwythau wedi'u penodi'n unol ag isddeddfau'r etholiadau, fydd yn gyfrifol am weinyddu Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr a’i chynnal yn briodol yn unol â chyfarwyddiadau a disgrifir yn fanwl yn y Cyfansoddiad (cymal 44-47).
5. Cyhoeddi
5.1 Bydd y Cadeirydd yn cyhoeddi bod Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr wedi cael ei galw, ynghyd â manylion pam y gwnaed hynny, yng nghyfarfod nesaf y Senedd.
5.2 Trefnir Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn unol â'r amserlen ganlynol; y Dirprwy Swyddog Etholiadau sy'n gyfrifol am benderfynu'r union ddyddiadau ar gyfer hyn:
- Cyhoeddi'r cynnig, dyddiad(au) ar gyfer Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr a dyddiad cyfarfod, sy'n agored i'r holl aelodau, i esbonio a thrafod y materion sydd dan sylw, a gynhelir heb fod yn hwyrach na dechrau'r pleidleisio.
- Os yw'r mater yn un dadleuol, bydd y cyfarfod yn enwebu dau asiant a fydd yn gyfrifol am redeg yr ymgyrch "Pleidleisiwch Ie" a'r ymgyrch "Pleidleisiwch Na". Bydd y naill asiant a'r llall yn derbyn lwfans cyhoeddusrwydd, wedi’i dalu gan UMAber, sy'n cyfateb i'r lwfans y cytunwyd arno ar gyfer etholiadau swyddogion ymddiriedolwyr. c. Cyhoeddi'r cynnig a'r cwestiwn sydd i'w ofyn a rhoi cyhoeddusrwydd pellach i ddyddiadau pleidleisio.
6. Pleidleisio
6.1 Bydd pob Aelod cyffredin yn gymwys i bleidleisio mewn Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr ar bolisi neu gynigion o bleidlais o ddiffyg hyder yn ymwneud â myfyrwyr a etholwyd gan Bleidlais ar draws y Campws.
6.2. Yn achos pleidlais o ddiffyg hyder dros rolau a etholwyd gan bleidlais gyfyngedig bydd yr isod yn gymwys i bleidleisio:
- Swyddog Gwirfoddol a etholwyd gan bleidlais gyfyngedig: Pan yn pleidleisio dros rolau sy’n cynrychioli myfyrwyr o grwpiau rhyddid a rhannau penodol o gorff y myfyrwyr, gall yr Undeb gyfyngu ar bwy a gaiff bleidleisio i’r rheini sy’n hunaniaethu gyda’r grŵp rhyddid dan sylw neu sydd o fewn rhan benodol.
- Pwyllgorau Grŵp Myfyrwyr: Holl aelodau myfyrwyr grŵp myfyrwyr penodol (gan gynnwys
Clybiau a Chymdeithasau)
- Cynrychiolaeth Academaidd: Yr holl fyfyrwyr sy’n cael eu cynrychioli gan Gynrychiolydd Academaidd penodol.
6.32 Caiff manylion yr etholiadau a'r broses bleidleisio eu cyhoeddi trwy wefan Undeb Aber UMAber, ac unrhyw le arall a ystyrir yn addas gan y Dirprwy Swyddog Etholiadau.
6.43 Fel arfer, cynhelir y bleidlais yn electronig.
6.54 Dylai'r opsiynau ganiatáu i Aelodau bleidleisio naill ai o blaid, yn erbyn neu ymatal ar bob cynnig.
7. Datganiad
7.1 Caiff canlyniadau unrhyw BPleidlais yr Holl Fyfyrwyr neu Bleidlais o Ddiffyg Hyder eu cyhoeddi gan y Swyddog Etholiadau pan fydd y cyfrif ar gyfer pob un wedi cael ei gwblhau'n llwyddiannus.
7.2 Gosodir canlyniadau unrhyw BPleidlais yr Holl Fyfyrwyr neu Bleidlais o Ddiffyg Hyder ar wefan yr Undeb o fewn un diwrnod gwaith o'r cyfrif.
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Gwnaed y newidiadau hwn. |
Bayanda (Llywydd Undeb) 2024-2025 |
Tachwedd 2024 |
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.