Lleihau Faint rydyn ni’n Prynu oddi wrth Amazon yn Undeb y Myfyrwyr

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 05/12/2022

Yn darfod ar: 05/12/2025

Statws: Cyflawnwyd

Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Manylion

Mae Amazon yn adnabyddus fel sefydliad nad yw’n cefnogi na pharchu ei weithwyr a hefyd yn niweidio’r amgylchedd – deubeth, sydd, yn fy marn i, yn mynd yn groes i werthoedd ein Undeb.

Dwi’n cynnig i’r Undeb ymdrech ymwybodol o leihau faint eu bod yn prynu oddi wrth Amazon.

Dwi’n deall y bydd rhaid prynu oddi wrth Amazon, ond pan fo modd, fe gredaf i y dylem gyfeirio ein gwariannau at fusnesau bychain a’r gymuned leol yn fwy.

Cyflwynwyd gan: Ash Sturrock 


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
mae holl staff yr Undeb yn ymwybodol o’r polisi hwn ac yn rhannu cyngor ar lefydd eraill y gallwn ni archebu pethau at weithgareddau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd yr Undeb. Rydyn ni hefyd yn gwneud ymdrech i chwilio yn y dref i ni allu cefnogi busnesau bychain. Ash Sturrock, Llywydd yr Undeb 2022-2023
Mae’r Llywydd eleni (2023-24) wedi anfon nodyn i atgoffa holl staff yr Undeb am y polisi ac wedi awgrymu llefydd eraill i siopa. Maent wrthi’n ystyried ffyrdd y gallwn ni ddangos arwyddocâd y polisi hwn ers i ni weithredu arno.  Bayanda (Llywydd Undeb, 2023-24) Tachwedd 2023

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina 

prdstaff@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576