“Mae gwneud gwaith rhyw yn drosedd yn normaleiddio trais yn erbyn menywod”- y Guardian. Ers i hyn ddod yn bolisi gan yr Undeb, mae modd i ni chwalu’r stigma ynghlwm â myfyrwyr yn eu cynnal eu hun drwy OnlyFans yn yr argyfwng costau byw sydd ohoni. Un o sgil effeithiau’r argyfwng costau byw yw bod myfyrwyr yn fwy tueddol o droi at ffyrdd sy’n ymddangos yn haws o ennill arian, gydag OnlyFans yn eu plith. Mae gweld llwyddiant neu rwyddineb pobl eraill wrth ennill arian ond yn ei gwneud yn fwy apelgar. Mae’r polisi hwn yn ymwneud â chael siarad yn agored ynglŷn â hyn, i’r Undeb gefnogi’r rheini sydd am ddilyn hyn ac yn y pendraw, i’w cyfeirio at y ffyrdd saff o fynd ati. Ni waeth fo eu hunaniaeth, eu gyrfa na’u dyfodol yn y brifysgol. Rydyn ni am gefnogi nid cywilyddio, yn cael gwared ar y stigma ynghlwm ag estyn am help os ydych chi’n gweithio yn y diwydiant hwnnw beth bynnag bo y diffiniad. Yn enwedig gyda hunaniaethau ar-lein, mae’n bwysig i’ch amddiffyn eich hun a’ch iechyd meddwl. “wrth i gostau byw, dyled a ffioedd dysgu godi a chyda thorri budd-daliadau mae’n debycach bod rhai myfyrwyr yn troi at waith rhywiol er mwyn eu cynnal eu hun o fis i fis” – Cynnig Model yr UCM i Gefnogi Terfynu ar Ystyried Gwaith Rhyw yn Drosedd. Dull lleihau niwed yw hyn; mae hefyd yn gadael i fyfyrwyr geisio cymorth os byddant yn profi aflonyddwch gan fyfyrwyr eraill, mae gennym Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SCTRh) yn y gwasanaethau myfyrwyr a all ddarparu cymorth os bydd angen, ac mae Polisi Trais a Cham-drin Rhyw wrthi’n cael ei lunio a fydd yn helpu atal trais tuag at ein myfyrwyr. Gyda’r Gwasanaethau Myfyrwyr mae yno hefyd declyn adrodd a chymorth a fydd yn helpu myfyrwyr i gysylltu â’r Gwasanaethau Llesiant a’r SCTRh.
Cymorth:
Y Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol: svlo@aber.ac.uk
Gwasanaeth Cymorth o ran Trais Rhywiol, Aflonyddu a Chamymddwyn:
https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/aflonyddwchachamymddwynatalachefnogi/ygwasanaethcymorthafl
onyddwchachamymddwynrhywioll/
Gwasanaethau Myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/
Polisi Urddas a Pharch yn y Gwaith: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/employment/dignity/
Y Gronfa Caledi Myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/money/managing-money/ygronfacaledimyfyrwyr/
Adrodd a Chymorth: https://adroddachymorth.aber.ac.uk/
Un agwedd ar hyn rydyn ni eisiau i fyfyrwyr ddeall yw ei bod hi’n bwysig ystyried eich cytundeb trwyddedu os ydych chi’n aros yn llety’r brifysgol gan y gallai hyn gael effaith ar eich tenantiaeth a’ch statws fel myfyriwr/wraig yn y brifysgol yn y pendraw.
2024-2025: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/accommodation/pdfs/Residents-Handbook-2024-25-CY.pdf
Mae hefyd yn werth ystyried enghreifftiau eraill gan wahanol sefydliadau i ddeall prosesau a sut y gallai myfyrwyr droi hyn yn ymgyrch a’r ffordd orau o fynd ati. Ceir adnoddau allanol isod.
Revenge Porn Helpline: https://revengepornhelpline.org.uk/resources/university-student-advice/
Prifysgol Caerlŷr: https://le.ac.uk/criminology/research/student-sex-work/toolkits-and-resources
https://le.ac.uk/courses/cpd-students-involved-in-the-sex-industry/2022
Y Drindod Dewi Sant: Gwaith Rhyw - https://www.uwtsd.ac.uk/cy/profiad-chyfleusterau/cymorth-lles-myfyrwyr/iechyd-llesiant
*mae pob polisi sydd gan Brifysgol Aber yn cynnwys staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
|