Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 28/10/2024
Yn darfod ar: 28/10/2027
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Cyfleoedd Myfyrwyr
Manylion
Yn aml yn y brifysgol, dyw’r chwaraeon ddim yn cael ei gweld yn flaenoriaeth. Yn enwedig o ystyried bod angen adnewyddu ar rannau helaeth o’r campws. Gyda’r Is-ganghellor newydd, a’r tîm gweithredol diweddaraf, nawr yw’r cyfle i bwysleisio pwysigrwydd cael ein chwaraeon a’n cyfleusterau ar safon cyfartal â phrifysgolion cystadleuol eraill. Mae’r brifysgol wedi buddsoddi rhywfaint o arian yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac fe lwyddodd i godi’r Gromen Chwaraeon. Fodd bynnag, nid yw buddsoddi yn y gampfa yn gwneud yn iawn am ddiffyg buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon.
- Rydyn ni heb gae hoci o hyd.
- Mae’r pwll nofio yr un ers 80 mlynedd ac dyw e ddim yn ddigon mawr ar gyfer BUCS.
- Mae tyllau yn waliau’r cwrt sboncen.
- Mae llwydni yn broblem fawr yn y Gawell Chwaraeon
- Mae angen enbyd am drwsio’r cyrtiau tenis
- Dim ond dwy lôn sydd i’r llwybr rhedeg, yn bell o fod yn ddigonol i bobl gystadlu
- Does gennym gyfleusterau ar gyfer gweithgaredd maes athletau.
- Dyw’r 3G ddim yn ddigon mawr na chwaith gyda’r pethau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer BUCS (ee llwyfan).
Mae gan y Brifysgol gynllun amhosib ar gyfer y cyfleusterau chwaraeon ac mae’n rhaid i’r Swyddog Cyfleoedd ddechrau gweithio ar hyn nawr a hyd y gellir rhagweld er mwyn sicrhau fod y cyfleusterau ar gael i ddiwallu anghenion hyfforddi a chystadlu ein nifer anhygoel ac amrywiol o glybiau chwaraeon.
Edrychwch ar y Polisi Dirwyn i Ben gwreiddiol
Cyflwynwyd gan: Tiff McWilliams
Manylion
Yn y gorffennol, rydym wedi gweld gwaith ailddatblygu ar gyfer y blociau llety, neuaddau darlithio a’r campysau ymchwil. (Fferm Penglais 2015, Pantycelyn 2020; HO C22 2019; AIEC 2020 ar waith).
Yr unig beth mae Prifysgol Aberystwyth yn prin ohono yw cyfleusterau chwaraeon addas i’n holl Glybiau Chwaraeon Undeb a myfyrwyr. Un ai i’w defnyddio ar gyfer chwarae mewn tîm neu ar gyfer defnydd unigolyn.
Nid yw canolfan na neuadd y chwaraeon yn addas i’r pwrpas ar gyfer ein corff myfyrwyr presennol, mae wedi dod i’r amlwg oherwydd yr effaith o govid-19. Canolfan y Chwaraeon yw’r 2il adeilad a godwyd erioed yma ym Mhenglais ac mae’n rhy hen ar gyfer ei phwrpas. Mae angen cydnabod tîm staff Canolfan y Chwaraeon am gael yr allbwn uchel maent yn ei gael gan eu cyfleusterau. Ond rydym yn credu ei bod hi nawr yn hen bryd i fuddsoddi arian i ddatblygu’r cyfleusterau chwaraeon nad yw’n addas ar gyfer ein corff myfyrwyr sydd erioed yn weithredol.
Cyflwynwyd gan:Bruce Fraser Wight
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Wnaethom i weithio gyda’r Ganolfan Chwaraeon a’r Brifysgol i gytuno ar ariannu adnewyddu’r ystafelloedd newid. Mae Cromen y Chwaraeon wrthi’n cael ei hadeiladu er mwyn gwneud y Neuad Chwaraeon yn llai prysur unwaith eto. Bu’n rhan o ymchwil ar draws y sir a oedd yn trafod y posibilrwydd o gyfleusterau gwell, mae ein Swyddog Cyfleoedd wedi cwrdd â phennaeth yr ystadau a staff chwaraeon priodol i drafod hyn. |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-25) |
Tachwedd 2023 |
Mae cromen newydd gyda llawer o gyfleusterau campfa wedi'i hadeiladu at ddefnydd myfyrwyr a'r gymuned. Sylwch fod rhai oriau wedi'u neilltuo ar gyfer aelodau yn unig, ond gall myfyrwyr sy'n byw yn llety'r brifysgol fwynhau mynediad am ddim i'r gampfa. |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-25) |
Mehefin 2024 |
Mae'r Swyddog Cyfleoedd â lle ar y Pwyllgor Rheoli Gofod, sy'n goruchwylio cyfleusterau, gan gynnwys lleoliadau chwaraeon. |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-25) |
Mehefin 2024 |
Bydd y Swyddog Cyfleoedd yn cael sgwrs gyda'r Is-ganghellor am bwysigrwydd Chwaraeon |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-25) |
Mehefin 2024 |
Daeth y polisi hwn i ben ond cafodd ei adfer. |
Tiff (Cyfleoedd Myfyrwyr 2023-25) |
Tachwedd 2024 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.