CYNRYCHIOLAETH ACADEMAIDD YN Y SENEDD

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 29/04/2024

Statws: Cyflawnwyd

Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb


Crynodeb

Dylai Cynrychiolwyr Academaidd gymryd lle y cynrychiolwyr cyfadran a gollwyd.

Manylion:

Gydag Undeb y Myfyrwyr yn lleihau nifer y swyddogion gwirfoddol cyfadran o 6 i 3, rydym yn colli 3 lle cynrychiolaeth academaidd allweddol ar y Senedd. Fy nghynnig yw disodli’r swyddi hyn gyda 2 Gynrychiolydd Academaidd i sicrhau bod digon o gynrychiolaeth academaidd ar y Senedd.

Y rheswm pam fy mod yn dweud dim ond 2 gynrychiolydd academaidd yw oherwydd bod y Senedd eisoes wedi pleidleisio dros gynnwys cynrychiolydd gwirfoddol, felly gyda chynrychiolydd gwirfoddol a 2 gynrychiolydd academaidd yn ychwanegol, byddai hyn yn cynnwys y 3 lle a gollwyd gan gynrychiolwyr cyfadran.

Byddai pleidlais yn cael ei chynnal i benodi pwy fydd yn ymuno â’r Senedd fel aelodau eraill.

Cyflwynwyd gan: Bayanda Vundamina


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
O fis Medi 2024 byddwn yn ethol dau gynrychiolydd academaidd i ymuno â’r Senedd. Byddwn yn ethol yr aelodau hyn ar yr un pryd yn yr un modd â chynrychiolwyr y gymdeithas a’r clwb yn ystod etholiadau’r Hydref. Byddwn yn ethol Cynrychiolydd Academaidd Israddedig ac Ôl-raddedig Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth Mehefin 2024
Yn y flwyddyn gyntaf o’i gweithredu, cafodd cynrychiolydd is-raddedig a chynrychiolydd ôl-raddedig eu hethol yn sgil adborth oddi wrth y Senedd. Fodd bynnag, oherwydd amser yr etholiadau, ni lwyddom i lenwi swydd y cynrychiolydd ôl-raddedig. Credwn, wrth symud ymlaen, y byddai’n fwy ymarferol i gynnig dwy swydd academaidd y gallai naill ai cynrychiolydd is-raddedig neu ôl-raddedig eu cymryd. Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth Tachwedd 2024

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

 Llywydd Undeb

Bayanda Vundamina

prdstaff@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576