Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 29/04/2024
Yn darfod ar: 29/04/2027
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd yr Undeb
Crynodeb:
Dylid cadw rolau i lywyddion undebau fel cynrychiolwyr i gynadleddau Cymru a’r DU.
Manylion:
Cynadleddau UCM yw'r cynadleddau mwyaf ar y calendr myfyrwyr a dyma le gall Undebau Myfyrwyr hyrwyddo eu hunain ar lefel genedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o undebau myfyrwyr yn cadw swydd cynrychiolydd i’r Llywydd gan mai nhw yw “llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr.” Ar hyn o bryd nid oes gennym y polisi hwn yn Undeb Aberystwyth ac rwy'n meddwl os mai dyna sut y mae'r undeb yn gweld ei Lywydd y dylid cadw swyddi gwarantedig ar gyfer Cynadleddau Cenedlaethol a Chynadleddau UCM Cymru.
Cyflwynwyd gan: Bayanda Vundamina
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae’r Undeb bellach wedi penodi lle i’r Llywydd fynd i Gynhadledd yr UCM a’r Gynhadledd Genedlaethol. Bydd y Llywydd yn cael dewis i fynd ai pheidio. Caiff rolau eraill eu hysbysebu a’u llenwi yn ôl trefn Etholiadau’r Hydref. Yn ôl y rheol mae UCM yn nodi bod angen i 50% o'r cynrychiolwyr sy'n mynychu'r gynhadledd hunaniaethu fel menyw. Bydd hyn yn cael ei ystyried pan fydd enwebiadau'n agor. |
Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth |
Mehefin 2024 |
Mae strwythur cynrychiolwyr UCM wedi newid, a chaiff y polisi hwn ei ddiweddaru yn unol â Rheoliadau newydd UCM. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon cyn gynted ag y caiff y manylion eu cadarnhau. |
Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth |
Tachwedd 2024 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.