Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 19/04/2021
Yn darfod ar: 19/04/2024
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd
Crynodeb
Lleihau straen cyflwyno gwaith erbyn terfyn amser a chreu cyfnod gras ar gyfer cyflwyno aseiniadau.
Manylion
Yn hytrach na methu dyddiad cau a methu’r aseiniad yn awtomatig, rwy'n cynnig y dylai fod cosb o un radd am bob diwrnod mae’r aseiniad yn hwyr yn cael ei gyflwyno. Gellid gwneud hyn mewn un o ddwy ffordd: Yn gyntaf, trwy ostwng y marc o ganran benodol am bob dydd mae’r aseiniad yn hwyr yn cael ei gyflwyno. Er enghraifft, cyfnod gras o 3 diwrnod ar ôl y dyddiad cau lle mae cosb o 5% dyweder am bob dydd yn cael eu cymryd oddi ar y marc sy’n cael ei ddyfarnu. Felly byddai aseiniad sy'n ennill 70/100 ond a gyflwynwyd 2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad cau yn derbyn 60/100 yn lle hynny. Fel arall, gallai hyn weithio trwy ostwng cyfanswm y radd bosibl, e.e. 5% bob dydd. Felly dim ond uchafswm o 90/100 y gall aseiniad a gyflwynir 2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad cau ei dderbyn. Yn amlwg, mater i’r brifysgol fyddai penderfynu hyd y cyfnod gras a'r ganran y mae'r marc sy’n cael ei ddyfarnu / cyfanswm y marc yn cael ei ostwng. Y fantais o hyn yn y pen draw fyddai lleihau’r straen ar fyfyrwyr, ynghyd â lleihau effaith academaidd amgylchiadau anochel, a allai fel arall arwain at fethu aseiniad, modiwl neu flwyddyn
Cyflwynwyd gan: Bethany Wright
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.