Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 30/11/2020
Yn darfod ar: 30/11/2024
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Swyddog Materion Academaidd
Crynodeb
Yn ystod yr amhariad mae Covid-19 yn ei achosi, dylid caniatáu i fyfyrwyr ag amgylchiadau arbennig ail-sefyll modiwlau maen nhw wedi’u pasio!
Manylion
Roedd asesiadau yn cael eu newid y funud olaf, ac roedd y bylchau yn strwythurau cymorth y brifysgol yn dod yn amlwg.
O ganlyniad, cyflwynodd y brifysgol nifer o reoliadau brys ar gyfer dilyniant academaidd - gan gynnwys fersiwn ddiwygiedig o'r broses amgylchiadau arbennig gyfredol. O dan y rheolau dros dro hyn, roedd myfyrwyr yn gallu dewis ail-sefyll unrhyw asesiad yr oedd Covid-19 wedi effeithio arno, HEB GAP AR EU MARC, p'un a oeddent wedi PASIO neu FETHU yn wreiddiol. Nid oedd yn ofynnol chwaith i fyfyrwyr gyflwyno unrhyw ddogfennaeth ar gyfer amgylchiadau arbennig, gan fod y rheolau yn cael eu gweithredu'n awtomatig.
Y Broblem - Ddydd Mercher 18fed Rhagfyr, pasiodd Senedd y Brifysgol y penderfyniad i gael gwared ar y mesurau hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol, gan eu disodli â mesurau lliniaru llawer llai effeithiol. O dan y newidiadau hyn, bydd yn rhaid i fyfyrwyr y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt bellach wneud cais am amgylchiadau arbennig, cyfiawnhau lefel eu heffaith, a gobeithio bod y cais hwn yn cael ei ganiatáu gan eu hadran. Gyda hyn, ni fydd ceisiadau am amgylchiadau arbennig a ganiateir yn dod i rym oni bai bod y modiwl / asesiad yr effeithiwyd arno wedi’i fethu neu heb ei gwblhau. Mae hyn yn golygu, pe bai myfyriwr yn wynebu effaith ddifrifol eleni oherwydd covid-19 ond yn dal i basio ei holl fodiwlau, ni fydd y mesurau lliniaru hyn yn dod i rym ac ni fydd ganddo’r hawl i gael ail-sefyll heb gap ar y marc.
Canlyniadau a Ddymunir - Bydd y Swyddog Materion Academaidd yn lobïo'r brifysgol i ganiatáu i fyfyrwyr sydd â chais amgylchiadau arbennig wedi’i gadarnhau i ail-sefyll modiwlau / asesiadau maent wedi’u PASIO y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt.
Cyflwynwyd gan: Chloe Wilkinson-Silk
Rhestr Weithredu
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Llwyddodd y Swyddog Materion Academaidd i lobïo'r brifysgol am Rwyd Ddiogelwch / Dim Anfantais ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21.
Mae hyn wedi'i weithredu ar gyfer pob myfyriwr ac i ddarganfod mwy am sut mae'n gweithio edrychwch ar ei blog yma: https://www.abersu.co.uk/news/article/umabersu/Safety-Net-for-Aber-Students/ a Chwestiynau Cyffredin y Brifysgol yma https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/faqs/ ('eich Astudiaethau') a https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/faqs/#is-the-university-following-a-no-detriment -polig. |
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.