Cymorth Iechyd Rhywiol a Pherthnasoedd

Ystyrir mynd i’r brifysgol fel cyfle i gwrdd â phobl newydd, cymdeithasu a mwynhau profiadau newydd. Rhan allweddol o hyn yw dysgu mwynhau gwahanol fathau o berthnasoedd a pharchu a chefnogi ein gilydd.

Rydyn ni i gyd yn wahanol. Mae angen i bob un ohonom deimlo'n gyfforddus gyda'n cyrff a phwy ydym ni, waeth pwy rydyn ni'n eu cael yn ddeniadol, neu a ydyn ni'n sengl neu mewn perthynas.

Rydym yn argymell pan gyrhaeddwch chi Aberystwyth gyntaf y dylech gofrestru'ch hun gyda'r gwasanaethau iechyd lleol. Ni ddylech aros nes bydd angen triniaeth feddygol arnoch. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd lleol yn ein canllaw Iechyd Cyffredinol.


Perthnasoedd

Mae'n bwysig cofio bod gan bob un ohonom sawl perthynas wahanol yn ein bywydau. Gall y rhain gynnwys: teulu, ffrindiau, pobl rydym yn eu hadnabod, athrawon, cydweithwyr, anifeiliaid anwes a chymheiriaid. Yn y canllaw hwn byddwn yn canolbwyntio ar berthnasoedd rhamantus a rhywiol, yn ogystal â rhai o'r ffactorau pwysig y dylech fod yn eu hystyried ac yn siarad amdanynt gyda'ch cymar/cymheiriaid.

Parchwch eich hun a pharchwch eich cymar/cymheiriaid. Mae mor bwysig eich bod yn gwirio’n gyson ac yn cael y sgyrsiau sy'n bwysig. Eu busnes nhw yw’r hyn mae pobl yn dewis ei wneud yn eu bywydau personol, ac nid yw'n iawn barnu unrhyw un arall a'u dewisiadau.

Rydym yn byw mewn cymdeithas amrywiol iawn ac mae mor bwysig ein bod yn cynnwys pawb mewn sgyrsiau gonest agored am gydsyniad, iechyd rhywiol, atal cenhedlu, Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (HDR) a thrais a cham-drin rhywiol.


Cydsyniad

Pan fydd pobl yn siarad am gydsyniad mae'n bwysig bod y sgyrsiau hyn yn cynnwys cydsyniad gweithredol brwd. Mae sicrhau eich bod wedi siarad am yr hyn y mae cydsyniad yn ei olygu i chi, bod gennych ddealltwriaeth o agwedd gyfreithiol cydsyniad, a bod cyfleu caniatâd yn hanfodol cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd rhywiol i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl.

Gellir tynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg; mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn gwirio gyda'ch gilydd yn gyson ac yn talu sylw i ystum eu corff. Mae sicrhau eich bod chi'ch dau/pawb yn gyfforddus â’r hyn rydych chi'n ei wneud a sicrhau bod pawb yn mwynhau'r profiad yn allweddol.

Cofiwch fod y sgyrsiau hyn yn gyfle i chi gyfathrebu beth mae rhyw yn ei olygu i chi, beth rydych chi'n ei hoffi, beth mae gennych chi ddiddordeb ynddo a pha bethau sy'n teimlo'n dda i chi. Mae’n bwysig cael cydsyniad bob amser; gofynnwch am ganiatâd cyn cychwyn unrhyw gyffyrddiad rhywiol a pharhewch i wirio trwy gydol y profiad.

Peidiwch ag anghofio bod siarad am sut yr aeth pethau ar ôl y profiad yn caniatáu i chi gyfnewid adborth, gan eich galluogi i adeiladu ar y profiad fel, eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu rhannu’r hyn sy’n eich plesio.


Hyfforddiant Cydsyniad

Mae dysgu pobl am gydsyniad yn eu galluogi i gael profiadau rhywiol mwy diogel, moesegol a phleserus.

Mae Brook yn darparu gwybodaeth a chyngor ar iechyd rhywiol a llesiant, yn gyfrinachol ac am ddim, gan dîm o arbenigwyr. Maent hefyd yn cynnig sawl cwrs addysgol byr am ddim trwy eu chwaer wefan Brook Learn. Mae un o'r modiwlau maen nhw'n eu cynnig ar bwnc Cydsyniad.

Mae cwrs pedair-rhan Brook yn eich helpu chi i ddeall y gyfraith, y normau rhywedd, ystrydebau a ffactorau diwylliannol a allai effeithio ar allu rhywun i gydsynio, ac mae'n cynorthwyo pobl i gyfathrebu am gydsyniad gyda'u cymar.

Datblygwyd modiwl cydsyniad Brook fel rhan o brosiect ar y cyd â Phrifysgol Sussex, ac mae'n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol ar gyfer doethuriaeth gan Elsie Whittington. Gweithiodd Elsie yn helaeth gyda phobl ifanc i ymchwilio i'r hyn yr oeddent yn ei ddeall am gydsyniad ac i ddeall realiti eu profiadau rhywiol eu hunain. Mae'r canlyniad yn cynnwys y Continwwm Cydsyniad arloesol, ynghyd â chyfres o weithgareddau profedig a ddatblygwyd gan Elsie fel rhan o'i gwaith.

Rhennir y cwrs hwn yn bedwar modiwl:

  1. Ystyr cydsyniad
  2. Mythau a'r gyfraith
  3. Y Continwwm Cydsyniad
  4. Cyfathrebu cydsyniad

Mae pob modiwl yn darparu ystod o adnoddau o ansawdd uchel, y gellir eu lawrlwytho; gallwch eu defnyddio i ddeall gwahanol agweddau ar gydsyniad.

Rhennir pob modiwl yn:

  • Ei ddysgu: Archwilio a deall agweddau penodol ar gydsyniad i chi'ch hun.
  • Ei Addysgu: Eich darparu â phopeth sydd ei angen arnoch i drafod cydsyniad gydag eraill.

Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw creu cyfrif ar Brook Learn ac i ffwrdd â chi. I gyrchu'r modiwl ewch i Brook Learn Consent.


Cyrchu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol

Yn Aberystwyth gallwch gael gafael ar ystod o Wasanaethau Iechyd Rhywiol yn y Clinig Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu lleol, taith gerdded fer o'r campws.

Gellir dod o hyd i'r clinig ei hun ger Fferyllfa Lloyds a Meddygfa Padarn. Mae mynediad ar gyfer yr anabl i’r adeilad, ond ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth ar sail apwyntiad yn unig am y dyfodol hyd y gellir rhagweld, trwy gysylltu â'r rhif a ddarperir isod:

 

Clinig Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu, Ffordd Penglais, Aberystwyth, SY23 3DU

Ffôn: 01267 248674 (dydd Llun i ddydd Gwener 9:15am - 4:30pm)

Gwefan: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/sexual-health/sexual-health-clinics-in-ceredigion/

Mae Atal HIV PrEP ar gael ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Gallwch hefyd gael gafael ar brofion cartref trwy wefan Iechyd Rhywiol Cymru.


Atal Cenhedlu Brys

Gall atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb amddiffyniad neu os yw'r dull o atal cenhedlu wedi methu. Mae dau fath o atal cenhedlu brys:

 

Y Bilsen Frys (a elwir weithiau'n bilsen fore trannoeth)

Rhaid cymryd y bilsen frys cyn pen 72 awr ar ôl cael rhyw heb amddiffyniad, ond gorau po gyntaf y cymerir hi.

Gallwch gael gafael ar y bilsen frys am ddim o amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

  • Clinig Atal Cenhedlu ac Iechyd Rhywiol Cymunedol yn ystod yr oriau mae’r clinig ar agor.
  • Meddygfeydd Teulu (gan gynnwys y rhai nad ydych chi wedi cofrestru â nhw).
  • Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
  • Fferyllfeydd dethol pan fydd fferyllydd achrededig ar ddyletswydd.

Fel arall, os ydych chi'n 16 oed neu'n hyn, gallwch brynu'r bilsen frys yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd am oddeutu £25.

 

Y Coil Brys

Gellir gosod y coil brys hyd at 5 diwrnod, neu weithiau mwy, ar ôl cyfathrach rywiol heb amddiffyniad.

Gallwch gael gafael ar y coil brys am ddim o amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

  • (Rhai) Clinigau Atal Cenhedlu ac Iechyd Rhywiol - ffoniwch am fanylion ac apwyntiad ymlaen llaw.
  • (Rhai) Meddygfeydd Teulu - ffoniwch y practis am fanylion ac apwyntiad ymlaen llaw.

 

Atal Cenhedlu

Nod atal cenhedlu yw atal beichiogrwydd. Mae beichiogrwydd yn digwydd os bydd sberm yn cwrdd ag wy (ofa).

Diben atal cenhedlu yw ceisio atal hyn rhag digwydd mewn sawl ffordd:

  • cadw'r wy a'r sberm ar wahân.
  • atal cynhyrchu wyau.
  • atal y sberm a'r wy cyfunol (wy wedi'i ffrwythloni) rhag glynu wrth leinin y groth.

Mae atal cenhedlu ar gael am ddim i'r mwyafrif o bobl yn y DU trwy'r GIG. Gellir hefyd prynu rhai dulliau atal cenhedlu mewn siopau, fel condomau sydd ar gael yn eang.

Mae yna sawl opsiwn ar gael i bobl sydd â gwain; fodd bynnag i bobl sydd â phidyn, dim ond un sydd, sef condomau. Dylech ddefnyddio condomau i amddiffyn eich iechyd rhywiol ac iechyd eich cymar, waeth pa ddulliau atal cenhedlu eraill y gallech chi fod yn eu defnyddio i atal beichiogrwydd.

Efallai y byddai'n syniad gwneud rhywfaint o ymchwil cyn penderfynu pa ddull yr hoffech roi cynnig arno, ac mae bob amser yn werth cael sgwrs gyda'ch meddyg teulu neu ymarferydd iechyd i sicrhau eich bod yn gallu gwneud dewis gwybodus.

Mae 15 math o atal cenhedlu ar gael, sy'n golygu y dylech chi allu dod o hyd i un sy'n addas i chi a'ch anghenion. Gall penderfynu pa ddull o atal cenhedlu sy'n gweithio orau i chi fod yn broses lle rydych chi'n rhoi cynnig ar fwy nag un. Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch weld pob un o'r gwahanol ddulliau ar wefan y GIG.

 

Dulliau Rhwystr

Dyma'r unig fathau o atal cenhedlu sy'n amddiffyn y defnyddwyr rhag beichiogrwydd digroeso yn ogystal â darparu amddiffyniad rhag heintiau a drosglwyddir trwy ryw (HDR).

Y rheswm y cyfeirir at y dulliau hyn fel dulliau rhwystr yw oherwydd eu bod yn darparu rhwystr i atal hylifau rhywiol rhag cael eu trosglwyddo rhwng partneriaid. Mae dulliau rhwystr wedi’u dyfeisio ar gyfer eu defnyddio unwaith yn unig, ac yna mae angen eu gwaredu. Mae’r mwyafrif o ddyfeisiadau rhwystr wedi’u gwneud allan o latecs, ond mae yna opsiynau eraill ar gyfer pobl sydd ag alergedd i latecs.

 

Condomau Allanol

Mae condom allanol yn gorchuddio'r pidyn ac yn gweithredu fel rhwystr rhyngddo â'r geg, y wain, y pidyn neu'r rhefr. Mae hyn yn atal hylifau rhywiol rhag cael eu trosglwyddo rhwng partneriaid, sy'n amddiffyn rhag HDR yn ogystal â beichiogrwydd.

Mae yna 3 pheth y dylech chi eu gwirio bob amser cyn defnyddio condom:

  1. Ei fod o fewn y dyddiad y dylid ei ddefnyddio, sydd wedi'i argraffu ar y deunydd pacio allanol
  2. Bod marc CE neu’r barcud ar y pecyn.

            Mae yn dangos cydymffurfiaeth â safonau iechyd, diogelwch a diogelu'r amgylchedd ar gyfer                                          cynhyrchion a werthir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

                Mae "marc y barcud" yn arwydd o ddiogelwch ac ansawdd yn y DU.

  1. Gwiriwch nad yw'r pecyn wedi'i ddifrodi; cyn ei agor, teimlwch am ymyl y condom y tu mewn i'r deunydd pacio a'i wthio i'r ochr fel na fyddwch yn rhwygo'r condom hefyd pan fyddwch chi'n rhwygo’r pecyn yn agored. Peidiwch â defnyddio'ch dannedd i agor pecyn condom. Hefyd, byddwch yn ofalus os oes gennych chi ewinedd hir neu rai artiffisial, nad ydych chi’n rhwygo'r condom.

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn darparu condomau am ddim.

 

Condomau Mewnol

Mae condomau mewnol yn mynd y tu mewn i’r wain neu'r rhefr ac yn gweithredu fel rhwystr rhyngddynt a’r pidyn. Gallant amddiffyn rhag beichiogrwydd trwy atal y sberm sydd mewn semen rhag dod i gysylltiad â’r wain (a allai arwain at ffrwythloni wy).

Mae condomau mewnol hefyd yn atal hylifau rhywiol rhag cael eu trosglwyddo rhwng partneriaid, sy'n amddiffyn rhag HDR yn ogystal â beichiogrwydd.

 

Rhwystr Dannedd

Sgwâr latecs neu blastig meddal yw rhwystr dannedd, y gellid ei ddefnyddio i orchuddio'r organau cenhedlu benywaidd neu'r rhefr yn ystod rhyw geneuol.

Defnyddir y rhain fel rhwystr yn ystod rhyw geneuol sy'n cynnwys cyswllt rhwng y geg a'r fwlfa, neu'r geg a'r rhefr. Mae’n bosib y gall y rhwystrau hyn fod yn ddefnyddiol i atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ond ar hyn o bryd nid oes ymchwil sy’n darparu tystiolaeth o hyn.

Gallwch chi greu eich rhwystr eich hun, gan nad ydyn nhw ar gael mor eang â chondomau, trwy dorri'r blaen a’r cylch oddi ar y condom ac yna torri ar ei hyd i greu petryal.


Heintiau a Drosglwyddir trwy Ryw (HDR) ac Atal Cenhedlu

Yn y bôn, haint a drosglwyddir trwy ryw (HDR) yw unrhyw fath o haint bacteriol neu firaol y gellir ei drosglwyddo trwy gyswllt rhywiol heb amddiffyniad. Gall unrhyw un gael HDR. Mae'n hawdd gwella rhai HDR gyda meddyginiaeth; gall eraill fod yn barhaol ond gellir eu rheoli.

Mae'n bwysig ceisio triniaeth, oherwydd os na chaiff yr heintiau hyn eu trin yna gall fod effeithiau hir-dymor. Mae'n hawdd cael eich profi; gallwch archebu citiau profi gartref sy'n golygu y gallwch chi gael pecyn profi wedi’i bostio i'ch cartref - byddwch yn cwblhau'r profion ac yna'n eu postio'n ôl. Yna byddwch chi'n derbyn eich canlyniadau o fewn pythefnos trwy neges destun.

Mae mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o HDR a sut i gael gafael ar becyn profi gartref ar wefan Iechyd Rhywiol Cymru.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Rhoi cyngor diduedd ar gyfer eich amgylchiadau.
  • Atgyfeirio ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol lleol.
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Brook

GIG - Eich Canllaw Atal Cenhedlu

Iechyd Rhywiol Cymru (Profi Gartref)

Byw Heb Ofn

New Pathways

Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru

Fumble


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Mawrth 2021

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576