Wythnos Refreshers

Wythnos Refreshers 2025

Yn Undeb Aber, caru bywyd myfyriwr sydd bwysicaf! Rydyn ni’n credu bod ymaelodi â chlybiau chwaraeon, cymdeithasau, neu wirfoddoli yn ffordd berffaith o ddarganfod eich cymuned Aber!

Reffreshars yw eich cyfle i ailgysylltu â thros 120 o glybiau, cymdeithasau, a chyfleoedd gwirfoddoli a darganfod beth sydd gan yr Undeb a busnesau lleol a chenedlaethol i’w gynnig ar ben hynny. Yn dod yn ôl neu’n newydd, mae rhywbeth at ddant bawb!


Dyma ychydig o'r digwyddiadau / gweithgareddau rydyn ni wedi'u trefnu:

 

 

 

 

 

 

Ail Ffair y Glas: 27 a 28 Ionawr

Ydych chi am ddechrau'r flwyddyn newydd gyda chyffro ac egni?

Ein Ffair Reffreshars ni yw eich drws i lond tymor o atgofion byth gofiadwy ac yn rhoi i chi’r cyfle i ddysgu mwy am beth sydd gan Undeb Aber a sefydliadau eraill i’w gynnig!

 

Beth i’w ddisgwyl:

Yr Awr Dawel: Dechreuwch y Ffair Reffreshars gyda munud fach dawel! Dewch i fanteisio ar yr Awr Dawel, ni fydd dim cerddoriaeth sy’n helpu creu man tawel a chynhwysol. Cofiwch nôl bathodyn anabledd oddi wrth stondin yr Undeb i chi fynd o gwmpas y digwyddiad wrth eich pwys a heb straen.

Cyfleoedd Diderfyn: Mae dros 120 o glybiau, cymdeithasau, a phrosiectau gwirfoddoli i’w darganfod! Mae gan Tîm Aber rywbeth at ddant pawb, boed yn chwaraeon, diddordebau, neu ddechrau eich grŵp eich hun.

Stondinau Rhyngweithiol: Tarwch sgwrs gyda chynrychiolwyr angerddol o fusnesau a sefydliadau lleol ac adrannau’r Undeb. Dysgu am eu gwasanaethau, eu nwyddau, a’u hymgyrchoedd – mae yna gymaint i’w weld!

Pethau Am Ddim: Peidiwch â cholli’r pethau, danteithion, gwobrau hwyliog unigryw fydd i’w cael am ddim! Dewch â bag a rhowch dro ar yr olwyn wrth stondin yr Undeb i gael y cyfle i ennill rhywbeth cyffrous.

Perfformiadau Arbennig: Dewch i brofi harmonïau hardd y cantorion madrigalau Elisabethaidd, cymdeithas hynaf Aberystwyth!

 

Rho Gynnig Arni!

Nod y sesiynau hon yw annog myfyrwyr i gymryd rhan yng ngweithgareddau Tîm Aber a dod yn rhan o glybiau a chymdeithasau. Dyma obeithio y bydd rhywbeth sy’n gweddu i chi i’r dim! Gweler yma i gael gafael ar y rhestr o weithgareddau ‘rhowch gynnig arni’ y gallwch gymryd rhan ynddynt!

Sêl Fach Fawr

27ain: 10:00-15:00

Ymunwch â ni yn Ardal Danddaearol Undeb Aber gyda’r cyfle i daro bargen dda ar nwyddau cartref a chegin ail-law!

 

Cwrdd a Chyfarch

Mae ein sesiynau cwrdd a chyfarch yn ddigwyddiadau cymdeithasol hamddenol ar gyfer myfyrwyr o'r un anian i ddod at eu gilydd yn ystod wythnos y croseo!

       
             
       
             
       

 

Other fun events...

Noson Gemau gyda’ch Tîm Swyddogion

Dydd Mercher 29 Ionawr 19:30-23:00

Dewch i ymuno â ni ar gyfer noson o hwyl, chwerthin, a gemau bwrdd clasurol fel nadroedd ac ysgolion, monopoly, a jena! Dewch â’ch gêm fwrdd eich hun a rhannwch yr hwyl a dod i nabod rhai newydd.

 

 

 

 

 

 

Noson Cwis gyda'ch tîm Swyddogion!

Dydd Iau 6 Chwefror @ Bar yr Undeb, cyrraedd o 6yh!

Ymunwch â ni ar gyfer cwis ar ôl yr arholiadau yng nghwmni eich swyddogion! Gadewch i straen yr arholiadau fynd a mwynhewch noson hwyliog o gystadlu a herio’ch gwybodaeth gyda gwobrau i’w hennill!!

Mae croeso i chi ddod fel timau neu fel unigolion, bydd angen dyfais ar bob tîm i chwarae. Rhowch wybod os ydych chi am ddod!


DOLENNI DEFNYDDIOL:

 

 

 

 

 

 

 

 

Cymryd rhan, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd i wneud ein profiad prifysgol y gorau y gall fod yn 2025.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576