Rydyn ni'n addo y byddwn ni'n tyfu gyda'n gilydd fel teulu Aber
Rydyn ni am i chi gael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, mwynhau hobïau, cymdeithasu a ffurfio cyfeillgarwch ystyrlon, yn ogystal â bod yn rhan o rywbeth mwy.
Sut:
- Perthynas â'r Undeb. Bydd myfyrwyr yn cysylltu gwirfoddoli, aelodaeth o glybiau neu gymdeithasau, arweinyddiaeth a phrofiadau o fod yn Gynrychiolydd Academaidd ag Undeb y Myfyrwyr.
- Hyrwyddo a chefnogi grwpiau myfyrwyr i greu digwyddiadau, gweithgareddau, cyfryngau ac ymgyrchoedd, cynyddu nifer y cyfleoedd i gyfranogi, arwain a dysgu.
- Byddwn ni'n helpu myfyrwyr i ganfod, tyfu a dathlu eu cymunedau amrywiol
- Bydd myfyrwyr yn chwarae rôl yng nghymuned ehangach Aberystwyth
Pam:
- Yn yr ACF 2016, dywedodd 67% o fyfyrwyr eu bod yn fodlon â'r gwasanaethau sydd ar gael gan UMAber, ond roedd 91% yn fodlon â'r Clybiau a Chymdeithasau oedd ar gael. Mae hyn yn dangos datgysylltiad rhwng gweithgareddau a darpariaeth/cefnogaeth
- Er bod 61% o'r myfyrwyr a holwyd yn rhan o glwb neu gymdeithas UMAber, dim ond 9% a ddisgrifiodd eu hunain fel pobl a oedd wedi llwyr ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr.
- Er bod 86% o fyfyrwyr yn teimlo ei bod yn bwysig bod Undeb y Myfyrwyr yn cynnig clybiau chwaraeon a chymdeithasau, dim ond 54% oedd yn hapus â'r detholiad sydd ar gael ar hyn o bryd.
Sut beth yw llwyddiant:
Erbyn 2020: Bydd 60% o fyfyrwyr yn perthyn i o leiaf un grwp myfyrwyr.