Rydyn ni'n addo y byddwn ni'n eich helpu i fod mor hapus ac iach â phosib
Rydyn ni'n sylweddoli bod bywyd yn gallu bod yn amrywiol, ac rydyn ni am fod gerllaw, boed glaw neu hindda.
Sut:
- Y Gwasanaeth Cynghori fydd y brif ffynhonnell ar gyfer canfod cyngor ar fywyd myfyrwyr a chymorth i fyfyrwyr wneud penderfyniadau hysbys
- Perthynas gref â phartneriaid lleol, asiantaethau cymorth a rhanddeiliaid
- Helpu i sicrhau iechyd meddwl a chorfforol da ymysg myfyrwyr
- Hyrwyddo hawliau myfyrwyr ac ymladd anghyfiawnder
Pam:
- Dim ond 44% o fyfyrwyr a deimloddd fod UMAber yn eu cefnogi
- Dim ond 16% ddwedodd y bydden nhw'n siarad â'r Undeb am gyngor a chymorth
- Teimlodd 89% o fyfyrwyr y dylai Undeb y Myfyrwyr ddarparu cyngor
Sut beth yw llwyddiant:
Erbyn 2020: Bydd 70% o'r myfyrwyr a holwyd yn dweud mai UMAber yw'r lle i fynd am gymorth a chyngor ar weithdrefnau academaidd.