Rydyn ni'n addo mai chi gaiff y gair olaf
Credwn fod llais myfyrwyr yn hollbwysig. Byddwn ni'n arbenigwyr ar fyfyrwyr Aber, ac y sicrhau bod eich barn, eich anghenion a'ch pryderon yn dylanwadu ar Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol, a'u bod i'w clywed yn lleol ac yn genedlaethol.
Sut:
- Bydd myfyrwyr yn deall beth yw'r Undeb, eu bod nhw'n aelodau ac y byddan nhw'n llunio gweithgareddau a pholisi UMAber.
- Bydd myfyrwyr yn dylanwadu ac yn llunio eu haddysg a'r profiad ehangach o fywyd yn y brifysgol.
- Ni fydd yr arbenigwyr ar fyfyrwyr Aber - byddwn ni'n gwybod sut maen nhw'n ymddwyn, beth maen nhw'n eu gwerthfawrogi a'r hyn sydd ei angen/eisiau arnyn nhw.
- Bydd arweinwyr myfyrwyr yn llais hyderus a grymus ar ran myfyrwyr Aber
Pam:
- Dim ond 30% a deimlodd y gallen nhw ddylanwadu ar Undeb y Myfyrwyr
- Credodd 85% o fyfyrwyr ei bod yn bwysig rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr lunio eu profiad yn y brifysgol.
- Teimlodd 81% o fyfyrwyr y dylai UMAber gynnig cymorth cynrychiolwyr academaidd, ond dim ond 43% oedd yn fodlon â'r ddarpariaeth bresennol
Sut beth yw llwyddiant:
Erbyn 2020: Bydd 50% yn cyfranogi ym mhrosesau llunio penderfyniadau UMAber, gan gynnwys etholiadau. ACF C26 - sgôr o 70% am foddhad