Rydyn ni'n addo helpu i'ch paratoi at eich antur nesaf
Rydyn ni am i'n myfyrwyr deimlo'n falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni, a meddu ar set o sgiliau a phrofiadau sy'n eu galluogi i deimlo'n hyderus i gymryd y camau nesaf ar eu taith, ble bynnag y byddan nhw'n dewis mynd.
Sut:
- Bydd Gwirfoddoli UMAber yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyfoethogi eu hamser yn y brifysgol yn ogystal â bod o fudd i gymuned y myfyrwyr ac i Aberystwyth yn ehangach
- Bydd ein holl fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli'n gallu nodi a mynegi sut mae eu gweithgaredd yn cyfrannu at eu datblygiad a'r camau nesaf
- Bydd myfyrwyr wedi paratoi at fywyd ar ôl y Brifysgol a byddan nhw'n derbyn cefnogaeth ardderchog i gymryd y camau nesaf
Pam:
- Dywedodd 67% o fyfyrwyr mai sicrhau'r canlyniadau gorau yn eu gradd yw'r peth pwysicaf iddyn nhw.
- Teimlodd 61% o fyfyrwyr nad oedden nhw ond wedi'u paratoi rhyw ychydig ar gyfer cyflogaeth ar ôl graddio.
- Teimlodd 77% o fyfyrwyr fod cynnig cyfleoedd gwirfoddoli'n bwysig.
- Dywedodd myfyrwyr y bydden nhw'n hoffi i UMAber eu helpu â'u CV, a'u helpu i ddeall sgiliau trosglwyddadwy a chwilio am swyddi, a bod datblygu sgiliau cymdeithasol ac ehangach yn bwysig iddyn nhw
Sut beth yw llwyddiant:
Erbyn 2020: Bydd 80% o fyfyrwyr yn cytuno bod Undeb y Myfyrwyr yn cael effaith gadarnhaol o ran eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol a datblygu sgiliau