Beth yw CAR/RAG? Codi a Rhoddi yw ei ystyr ac yn ei hanfod, rhan bwysig o godi arian neu roi amser o’ch gwirfodd at achos neu elusen o’ch dewis.
Trwy gydol y flwyddyn, rhoddir wythnos Codi a Rhoddi i’n holl grwpiau myfyrwyr lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau felly. Gallant godi arian at eu grŵp, elusen o’u dewis neu ein Elusen CAR y flwyddyn.
Ynghlwm â hyn oll mae addewid Undeb Aber i’ch cefnogi i fod yn hapus ac iach a bod yn ddylanwad er gwell.
Wythnosau RAG
Pan roddir wythnos gyfan i grwpiau myfyrwyr godi arian. Mae rhai grwpiau yn trefnu un digwyddiad mawr, gyda rhai yn rhedeg rhywbeth bob dydd, a grwpiau eraill yn cydweithio gydag eraill a rhai grwpiau, ar y llaw arall, yn ei gwneud hi’n annibynnol – does dim ffordd gywir neu anghywir o fynd ati i gynnal wythnos RAG, cyhyd â’ch bod yn cael hwyl ac yn codi arian dros achos da!
Elusen CAR y Flwyddyn
Mae elusen CAR y flwyddyn yn cael ei dewis bob blwyddyn gan fyfyrwyr a swyddogion. Bydd eich Swyddog Cyfleoedd yn gofyn i chi awgrymu elusennau trwy gydol yr haf. Daw yn fater o ddewis rhwng 4 ohonynt gan dîm eich swyddogion, ac yn Ffair y Glas, caiff pob myfyriwr/wraig y cyfle i bleidleisio dros bwy yr hoffent weld yn Elusen CAR y Flwyddyn (fel y gwneir gyda thocynnau mewn archfarchnad).
“Mae CAR (Codi a Rhoddi) wrth galon fywyd y Brifysgol. Mae’n gyfle i fyfyrwyr godi arian neu roi eu hamser o’u gwirfodd i helpu elusen neu achos sy’n agos at eu calonnau. Mae gwaith y myfyrwyr wedi gwneud lles mawr i amryw o wahanol achosion. Dim ond eleni, codwyd dros £2000 at ein helusen y flwyddyn gan lond llaw o grwpiau yn unig. Ond nid yw Codi a Rhoddi o fudd i’r elusen yn unig, ond i fyfyrwyr hefyd gan ennill amryw o sgiliau a phrofiadau fydd o fantais i’r CV a’u helpu i dyfu fel unigolion. CAR yw’r ffordd orau o ddysgu rhywbeth newydd, ennill profiadau bythgofiadwy, a rhoi cymorth hollbwysig i elusennau.”
- Tiff McWilliams (Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr)
|
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan cysylltwch â:
Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr
Tiffany McWilliams
cyfleoeddum@aber.ac.uk |