Nid yw bob amser yn mynd i fod yn bosibl i chi gwrdd wyneb-yn-wyneb. Dyma ble gall gweithgareddau a digwyddiadau rhithwir fod yn adnodd gwerthfawr. Mae cynnal eich gweithgareddau’n rhithwir yn ffordd wych o barhau i wneud y pethau rydych chi'n eu mwynhau fwyaf, yn ogystal â chadw mewn cysylltiad â'ch aelodau. Mae'r posibiliadau bron yn ddiddiwedd! Rydym wedi llunio rhestr o syniadau i chi gael ysbrydoliaeth ohonynt...
Teledu, Ffilmiau a Fideos
- Dechreuwch glwb ffilm / teledu a pharhewch â'ch Nosweithiau Teledu / Ffilm!
- Dyma rai enghreifftiau o’r gwasanaethau sydd ar gael:
- Netflix Party
- YouTube - rhestr chwarae a ffrydio byw
- Twitch - ffrydio gemau’n fyw a banc o ffrydiau blaenorol
- Parti Gwylio Facebook
- Rabbit - rhannwr porwr i wylio unrhyw beth (ar gyfrifiadur, iOS ac Android)
- Mae llawer o apiau galwadau fideo yn caniatáu i chi rannu'ch sgrin e.e. Zoom a Skype
Cerddoriaeth
- Gallwch greu rhestr chwarae a rennir lle gall eich aelodau ychwanegu eu hoff gerddoriaeth. Beth am lunio rhestrau chwarae ar thema benodol, e.e. Caneuon Disney, Cerddoriaeth ar gyfer Ymlacio a Pharti Pop?
- Mae Spotify yn wych ar gyfer hyn, dyma ganllaw hawdd ei ddefnyddio!
- Gallwch ffrydio cerddoriaeth gyda'ch gilydd ar yr un pryd gyda Plug DJ
Mae cymaint o ffyrdd i gadw mewn cysylltiad, dyma ambell un o'r rhai mwyaf poblogaidd!
Galwadau Fideo
- Mae llawer o lwyfannau yn gadael i chi wneud galwadau fideo â’ch gilydd e.e. Zoom, Skype a Facebook messenger.
- Beth am gynnal eich digwyddiadau cymdeithasol arferol, ond yn rhithwir?
- Gallwch hefyd wneud amryw o bethau eraill fel cynnal clwb llyfrau, dysgu sgiliau newydd i'ch gilydd neu ddim ond ymlacio gyda'ch gilydd!
Sgwrsio
- Gallwch gadw i fyny â'ch sgyrsiau grwp arferol; ceisiwch gadw'r sgyrsiau i fynd a galw pobl i wneud yn sicr eu bod nhw’n iawn.
- Os nad oes gennych chi grwp sgwrsio, byddai nawr yn amser gwych i sefydlu un!
- Mae llawer o lwyfannau yn gadael i chi gynnal sgwrs gyda grwp, e.e. Facebook messenger, Discord, a.y.b.
Daliwch ati i fod yn weithredol ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol!
Defnyddiwch yr holl nodweddion sydd ar gael, e.e. straeon, pyst, partïon gwylio, hashnodau, a.y.b.
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cynnwys:
- Edrychwch yn ôl ar yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni eleni, a chael eich aelodau i rannu eu hoff ddigwyddiadau.
- Cynhaliwch arolygon barn a dechreuwch drafodaethau ar ystod o bynciau, e.e. ffilmiau / rhaglenni teledu i'w gwylio, llyfrau i'w darllen a cherddoriaeth i wrando arno.
- Gallwch ffrydio fideos byw / dosbarthiadau ar-lein gyda'ch gilydd a dysgu sgiliau newydd, e.e. ioga, sesiynau dawns, celf a chrefft, pobi.
- Beth am gynnal heriau / gweithgareddau gyda'ch aelodau, e.e. heriau ar thema / wedi'u hamseru, ‘dangos a dweud’ gyda phethau fel llyfrau, anifeiliaid anwes, a.y.b.
- Beth am sefydlu blog / vlog grwp ar gyfer y rhai sy’n hunan-ynysu er mwyn parhau i ymgysylltu â'ch aelodau.
- Rhannwch awgrymiadau ar gyfer astudio.
- Chwarae gemau gyda'ch gilydd!
- Beth am gynnal arolwg i weld pa lwyfannau a gemau sydd gan bawb?
- Dyma rai awgrymiadau:
- Gallwch gynnal cwis rhithwir ar Kahoot
- Cadwch yn heini! - Manteisiwch ar gryferau eich grwp
- Gallwch gynnal sesiwn ymarfer ffitrwydd ar-lein drwy Zoom neu Teams, neu gymryd rhan mewn dosbarthiadau ar-lein gyda'ch gilydd
- Heriau corfforol, e.e. Cadw’r bêl i fyny
Tagiwch ni yn eich gweithgareddau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni a'r hashnodau isod...
#TîmAber #TeamAber
Os oes gennych chi unrhyw syniadau i’w hychwanegu, rhowch wybod i ni!