Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 a death yn neuadd cyfrwng Cymraeg yn 1974. Yn dilyn adnewyddiad sylweddol, mae’r adeilad bellach yn cynnig amrywiaeth o ystafelloedd cymunedol cyfoes ar gyfer myfyrwyr a bywyd mewn Prifysgol. Mae rhai o'r ardaloedd cymunedol ar gyfer defnydd trigolion Pantycelyn yn unig. Mae yna hefyd ystafelloedd astudio, cyfarfod, ymarfer ac ymlacio ar gael i bobl nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn allu eu harchebu.
I archebu ystafell ewch i:
ystafellaberrooms.simplybook.it
- Dewiswch ‘Archebu Nawr’
- Dewiswch yr ystafell yr hoffech
- Ewch i’r mis rydych chi ei angen
- Dewiswch ddyddiad
- Dewiswch amser o’r opsiynau sydd ar gael
- Llenwch y ffurflen fer
- Cytunwch â’r amodau a’r telerau
- Os oes ond angen un awr, cliciwch ‘Cadarnhau Archeb’
- Os oes angen mwy o amser neu amserau eraill / ystafelloedd gwahanol, dewiswch ‘Ychwanegu archeb arall’
- Dilynwch gamau 2-6
- Pan fyddwch wedi dewis yr holl ystafelloedd / amserau sydd angen, gwasgwch ‘Cadarnhau Archeb’
Noder - Os oes angen cymorth paratoi ar gyfer eich digwyddiad gyda dodrefn neu offer arbennig, dylech archebu 7 diwrnod o flaen llaw. Dylid hefyd gynnwys amser o fewn eich archeb i osod yr ystafell, ac amser i’w gadael fel ag yr oedd cyn eich digwyddiad. Os oes angen adnoddau ychwanegol, archebion cyson, neu os ydych am archebu ar gyfer sefydliad allanol e-bostiwch undeb@aber.ac.uk.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i archebu'r ystafelloedd canlynol:
- Undeb y Myfyrwyr
- Ystafell / Room 1
- Ystafell / Room 2
- Ystafell / Room 3
- Ystafell / Room 4
- Ystafell / Room 5
- Picturehouse yr UM
- Y Prif Ystafell / Main Room
- Pantycelyn
- Ystafell Gyfarfod / Meeting Room 1
- Ystafell Gyfarfod / Meeting room 2
- Ystafell Astudio / Study Room 1
- Lolfa Fach
- Ystafell Gyffredin Hyn / Senior Common Room
I weld calendr yr archebion yn Outlook:
- Ewch i’ch Calendr
- Cliciwch ‘Add Calendar’ o’r ddewislen a dewiswch ‘Open Shared Calendar’...
- Yn y ffenestr sy’n ymddangos, teipiwch ‘suhstaff@aber.ac.uk’ a chliciwch OK
- Dylai’r calendr ymddangos nawr yn eich rhestr o ‘Shared Calendars’. Byddwch yn gallu gweld yr holl archebion (gan gynnwys ystafelloedd yr UM).
- ‘Right Click’ ar y calendr yn y ddewislen ar y ochr. Dewiswch ‘Properties’. O dan ‘synchronisation’ mae yna opsiwn didoli. Teipiwch ‘Pantycelyn’ a dewiswch ‘subject field only’ i weld archebion Pantycelyn yn unig.
- Rhowch hyd at 24 awr i archebion a wnaed drwy’r system ar-lein ymddangos yn y calendr Outlook.