Rydych chi wirfoddolwyr myfyrwyr UMAber yn anhygoel ac rydym yn credu eich bod chi’n haeddu cydnabyddiaeth am yr holl amser a’r ymdrech rydych chi’n eu rhoi er lles eich cydfyfyrwyr, y gymyned neu achos sydd o bwys ichi.
Mae’r GWOBRAU ABER yn ffordd o ddathlu eich rwymedigaeth i wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth. Mae gennym 3 gwobr (Efydd, Arian ac Aur) y gallwch weithio tuag atynt trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae pob gwobr yn eich helpu i fonitro’r oriau, y gweithgareddau a’r sgiliau rydych chi’n eu hennill neu eu cyflawni fel gwirfoddolwr. Croesawir pawb sy’n cyrraedd gwobr garreg filltir i'n digwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn lle y byddwch yn cael eich dyfarnu gyda thystysgrif argraffedig o’r wobr uchaf rydych chi wedi’i chyflawni.
Eleni, caiff oriau gwirfoddoli eeu cyfrif o ddydd Llun 19eg Medi 2022 tan ddydd Gwener 1af Mai 2023.
Sut i weithio tuag at Wobr Aber?
Mae'n hawdd gweithio tuag at Wobr Aber, dilynwch y camau hyn:
- Cofrestrwch fel gwirfoddolwr
- Mewngofnodwch i'r Hwb Gwirfoddolwyr
- Cofnodwch eich oriau, gweithgareddau a sgiliau yn rheolaidd
Nid ydych chi'n gyfyngedig i gofnodi oriau o un rôl, felly os ydych chi'n ymwneud ag amryw o wahanol weithgareddau gwirfoddol, yna byddem yn eich annog chi i gofnodi popeth rydych chi'n ei wneud! Gwnewch yn siwr eich bod yn diweddaru'ch cofnod!
Pa oriau a gweithgareddau alla i eu cofnodi?
Gellir cofnodi unrhyw wirfoddoli a wnewch yn Aberystwyth, yn ystod y Flwyddyn Academaidd (Medi - Mai). Cyn derbyn eich gwobr, bydd aelod o staff yn cadarnhau eich holl oriau gwirfoddoli a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin. Nid dim ond yr oriau rydyn ni'n eu gwirio, ond y sgiliau hefyd. Gallwch ganfod mwy am ba weithgareddau y gellir eu cofnodi:
Cliciwch isod i weithio tuag at y Gwobrau Aber a llwythwch eich gweithgareddau, eich sgiliau a’ch oriau i fyny.
Yn gyntaf, mae rhaid i chi gofrestru fel gwirfoddolwr er mwyn defnyddio eich proffil gwirfoddolwr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth ynglyn â’r Gwobrau Aber, yna cysylltwch ag...