Dyma'ch cyfle i chwarae rhan flaenllaw mewn ffurfio ymdeimlad o gymuned yn Aberystwyth. Byddwch yn cael cyfleoedd i nid yn unig ddatblygu eich sgiliau a'ch profiadau eich hun, ond hefyd sgiliau eich cyd-fyfyrwyr; y nod yw gwneud eich profiad myfyriwr yn un bythgofiadwy!
Er mwyn sefyll a phleidleisio, bydd angen i bawb fod ag aelodaeth o’u clwb neu gymdeithas, a bydd angen iddynt hefyd fod yn fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Sut mae sefyll yn gweithio:
- Bydd y cyfnod sefyll yn mynd yn fyw ar y dudalen hon o 12:00 29/01/2024 - 12:00 04/03/2024
- Gallwch sefyll ar gyfer cynifer o rolau ar draws cymaint o grwpiau myfyrwyr ag y dymunwch
- Sylwch na all unigolyn ddal sawl rôl graidd ar bwyllgor unrhyw un grwp myfyrwyr
Sut mae pleidleisio’n gweithio:
- O 12:00 11/03/2024 ymlaen tan – 12:00 15/03/2024 bydd pleidleisio yn agor trwy’r wefan hon.
- Dim ond y rhai sy’n fyfyrwyr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth a bod ganddynt aelodaeth fyfyrwyr o’u grwp myfyrwyr perthnasol a all fwrw pleidlais.
Sefyll yn Cau
Proffiliau Rolau Pwyllgor
Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor
Is-Etholiadau
Gweler isod unrhyw is-etholiadau rydych chi’n gymwys sefyll neu bleidleisio ynddynt. Os na allwch chi weld etholiad, gwnewch yn siwr eich bod wedi mewngofnodi i’r wefan a bod gennych chi aelodaeth bresennol gyda’r grwp myfyrwyr.
Os oes unrhyw gwestiynau neu drafferthion cysylltwch â...
Clybiau Chwaraeon: suclubs@aber.ac.uk // Cymdeithasau: susocieties@aber.ac.uk
Cymdeithasau
Clybiau Chwaraeon