Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr

 

Croeso i Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr! Yma yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, rydym yn credu ym mhwer myfyrwyr sy’n dod at eu gilydd i gael effaith gadarnhaol ar ein cymuned. Mae’r wythnos hon yn ymroddedig i ddathlu cyfraniadau anhygoel ein myfyrwyr sy’n gwirfoddoli a gobeithio annog hyd yn oed mwy o fyfyrwyr i gymryd rhan er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.


Beth yw Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr?

Mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn ddathliad blynyddol sy'n tanlinellu pwysigrwydd myfyrwyr sy’n gwirfoddoli a’u rôl wrth greu newid cadarnhaol. Mae'n amser cydnabod yr effaith y gall myfyrwyr eu cael pan fyddant yn dod at ei gilydd i weithio tuag at yr un achos. Nid yw'r wythnos hon yn canolbwyntio ar gwirfoddoli yn unig; mae’n ymwneud ag adeiladu ymdeimlad o gymuned a meithrin ysbryd o allgaredd ymhlith ein myfyrwyr. 


Cymryd rhan!

Mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i unrhywun gymryd rhan trwy gydol yr wythnos. Boed yn wasanaeth cymunedol, cynaliadwyedd amgylcheddol, neu gefnogi mentrau lleol, mae ffordd i chi wneud gwahaniaeth. 

 

Sut i gymryd rhan

 

Archwilio Cyfleoedd: Ewch i'n tudalen Cyfleoedd Gwirfoddoli i ddarganfod y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan ac archwilio pa Brosiectau Gwirfoddoli dan Arweiniad Myfyrwyr sydd gennym ar gael. 

Cofrestrwch: Cofrestrwch fel gwirfoddolwr yma, yna cofrestrwch ar gyfer y digwyddiadau neu'r prosiectau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch argaeledd.

Mynchu Digwyddiadau: Cymryd rhan yn y digwyddiadau a gynlluniwyd a chael effaith gadarnhaol yn y gymuned. 

 

Rhanni eich stori

A oes gennych brofiad o wirfoddoli sydd wedi cael effaith barhaol arnoch? Rydyn ni eisiau clywed eich stori! Rhannwch eich taith wirfoddoli ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #SVW2025 ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. 

 


Tu hwnt i’r Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr

Mae gennym ddigon o gyfleoedd gwirfoddoli i chi gymryd rhan ynddynt y tu hwnt i Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr. Profi ei wirfoddoli yn y gymuned, gyda Phrosiect Gwirfoddoli dan Arweiniad Myfyrwyr, neu fynychu diwrnod gweithredu rydym yma i'ch cefnogi. Gallwch gael gwybod am bopeth sydd ar gael drwy ein Hadran Gwirfoddoli yma.


Buddion Gwirfoddoli

Datblygu Sgiliau: Mae gwirfoddoli yn meithrin sgiliau gwerthfawr i chi sy’n mynd tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, megis arweinyddiaeth, gwaith tîm a datrys problemau.

Cyfleoedd rhwydweithio: Cysylltu ag unigolion o'r un anian, arweinwyr cymunedol, a mentoriaid posibl trwy wirfoddoli.

Twf Personol: Gall gwirfoddoli gyfrannu tuag at eich twf personol trwy eich helpu i ddatblygu ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad.

 

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, clywch gan eich cyd-fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli isod!

 

"I love being able to make a difference for a large cohort, and make their voices heard at a higher level and help alleviate problems they see within their courses." - Freddie Yeates
Sbotolau ar Gwirfoddolwyr Myfyrywr: Freddie Yeates
(Cynrychiolydd Academaidd Daearyddiaeth Blwyddyn 1 2023-2024)

"I have gained a lot of experience through volunteering; I would say the main one which is very transferable is having me being in a leadership position." - Ren Felbruegge
Sbotolau ar Gwirfoddolwyr Myfyrywr: Ren Felbruegge
(Arweinydd Prosiect-Pen Rhydd Llyfregell Bach 2023-2024 & UndebAber Swyddog Myfyrywyr Rhyngwladol 2023-2024)


Cydnabyddiaeth a Gwobr

Mae myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yn anhygoel ac rydym yn credu eich bod yn haeddu cydnabyddiaeth am yr holl amser a'r ymdrech rydych chi’n rhoi er budd cyd-fyfyrwyr, y gymuned neu achos sy'n bwysig i chi.  

GWOBR ABER yw ein ffordd o ddathlu eich ymrwymiad i wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth. Mae gennym 3 gwobr (Efydd, Arian ac Aur) y gallwch weithio tuag atynt yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae pob gwobr yn eich helpu i gadw golwg ar yr oriau, y gweithgareddau a'r sgiliau rydych chi'n eu hennill fel gwirfoddolwr. 

Bydd pawb sy'n cyrraedd gwobr yn cael eu gwahodd i'n digwyddiad diwedd blwyddyn a byddwch yn derbyn tystysgrif brintiedig o'r dyfarniad uchaf a gyflawnwch.  


Ymuno a’r ymgyrch

Pwrpas Wythnos Gwirfoddoli myfyrwyr ydi meithrin diwylliant o roi yn ol i’ch cymuned trwy’r flwyddyn. Ymunwch â ni i gael effaith barhaol ar ein cymuned a thu hwnt. 


  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom - suvolunteering@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576