Rydyn ni'n dathlu'r Celfyddydau
Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos i ni mor werthfawr yw’r sector celfyddydau ac adloniant yn ein bywydau. Rydyn ni am ddod â phobl ynghyd i ddathlu hynny, felly rydyn ni'n cynnig cyfle i chi fynegi'ch ochr greadigol trwy arddangos eich gwaith i'r corff myfyrwyr a thu hwnt. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar eich dull artistig, p'un a ydych chi'n dewis geiriau, cerddoriaeth, ffilm, drama, dawns, paentio, neu unrhyw beth arall, rydyn ni am i chi gymryd rhan!
Digwyddiad
Tarddiad y Digwyddiad
Yn 2019, daeth unigolyn oedd ag angerdd amlwg dros y celfyddydau â’r syniad o Wyl Gelf ger bron y Senedd. Tynnwyd sylw at y gwaith anhygoel y mae llawer o'n grwpiau myfyrwyr yn ei wneud ar eu liwt eu hunain, ond roeddent yn teimlo y gallai fod rhyw ffordd o ddod â nhw i gyd at ei gilydd i uno a grymuso'r holl wahanol fathau o gelf sydd gennym yn ein cymuned fywiog yn Aberystwyth. Yn sgil hynny, rydym wedi gweithio'n agos gydag unigolion allweddol o glybiau chwaraeon a chymdeithasau i wneud y digwyddiad hwn mor amrywiol, croesawgar a bythgofiadwy ag y gall fod!
Os ydych chi am gymryd rhan neu os hoffech chi wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr: cyfleoeddum@aber.ac.uk