Aber 7's

Unwaith eto bydd tref hyfryd Aberystwyth ger y lli yn cynnal yr wyl rygbi 7 bob ochr FWYAF yn ystod penwythnos Gwyl Banc Mai, rhwng 3 - 4 o Mai 2025.

Bydd ceisiadau tîm yn agor ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2024! Peidiwch ag anghofio, nid oes angen i chi gystadlu i fwynhau'r diwrnod, gallwch chi ddod i gymryd rhan trwy wylio o hyd!

Cysylltwch â Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr UMAber, Lucie Gwilt am fwy o fanylion.

 

 

Cystadlaethau

06 Rhag 2024 09:00

Bydd tocynnau'n mynd ar werth am 09:00 ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2024

Canolradd Dynion (Gwobr Arian) | Cystadleuol i Ddechreuwyr Dynion | Dechreuwyr Dynion Cymdeithasol

Women's Intermediate (Gwobr Arian) | Dechreuwyr Menywod

Cynhelir yr holl gystadlaethau dros y penwythnos cyfan. Ar y diwrnod 1af a bore’r 2il ddiwrnod, bydd y timau yn chwarae mewn cynghrair, gyda chystadleuaeth ddileu yn cael ei chynnal ar brynhawn yr 2il ddiwrnod. Yn dibynnu ar lwyddiant pob wrth chwarae yn y gynghrair, byddant naill ai yn symud ymlaen i’r Cwpan, y Plât neu’r Fowlen a fydd yn gystadlaethau dileu sy’n cynnwys rowndiau cyn-derfynol a rownd terfynol.

Gwybodaeth Allweddol

Dyddiad:  3-4 o Mai 2025

Mynediad: TBC

Parcio: TBC

Bwyd a Diod: Mae ganddo ni ddigon o ddewis bwyd a diod ar safle #Aber7s eleni; Van byrgyrs a sglodion, Indian Cuisine, Hog Roast, Hufen Ia, van coffi a bar y brifysgol.

Does dim rhaid i chi adael y cae!

Canlyniadau: Mae modd dilyn y canlyniadau byw trwy gydol y penwythnos ar www.aber7s.co.uk

Polisi Blaendolau: Ni chaniateir cwn ar Gaeau Chwarae Blaenau.

Manylion ir Capteiniaid

Cystadlaethau | Gemau dydd Sadwrn | Gemau dydd Sul | Strwythur Knockouts dydd Sul

Map o'r lleoliad | Rheolau

Mynediad: Caiff pob chwaraewr cofrestredig fynediad am ddim felly sicrhewch eich bod chi'n cyrraedd mewn da bryd cyn y gêm gyntaf! Cofiwch, bydd y tîm diogelwch yn sicrhau nad oes gennych alcohol. Os byddant yn dod o hyd i alcohol, caiff ei gymryd oddi wrthych.

Cofrestru'ch Tîm: O 9:00am ymlaen fore Sadwrn ym Mhabell y Swyddogion ym Mlaendolau. (Capteiniaid yn unig os gwelwch yn dda).

Gemau: Bydd y gemau cyntaf yn dechrau'n BRYDLON am 9.40am ar y ddau ddiwrnod. Ni chaiff unrhyw dîm sy'n hwyr / sy'n methu â mynychu gêm chwarae rhan bellach yn gystadleuaeth.

Gorchuddion dannedd: Bydd stondin fechan ar wahân yn gwerthu gorchuddion dannedd hefyd.

Cyflwyniad: Bydd Cyflwyniad y Gwobrau'n digwydd ar y safle, yn dilyn rownd derfynol y Prif Gwpan am tua 5:30pm ddydd Sul.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576