Dechrau Grwp Myfyrwyr

 

Oes gennych chi ddiddordeb ond yn gweld diffyg darpariaeth ar ei gyfer?

Beth am ddechrau eich Clwb Chwaraeon, eich Cymdeithas neu’ch Prosiect Gwirfoddoli eich hun!

Neu fabwysiadu un o’n grwpiau myfyrwyr gwag isod…

Gyda chefnogaeth bob cam o'r ffordd, rydyn ni bob amser yn awyddus i grwpiau myfyrwyr newydd ymuno â Chymuned Tîm Aber.

 

Manteision cychwyn grŵp myfyrwyr gydag Undeb Aber

 

Mae bod yn Grŵp Myfyrwyr Undeb Aber yn golygu y gallwch wneud y mwyaf o'r buddion canlynol:

  • Slot blynyddol yn Ffair y Glas Undeb Aber
  • Tudalen we y gellir ei haddasu ar www.umaber.co.uk a chyfeiriad e-bost @aber.ac.uk unigol i gyfathrebu'n uniongyrchol â chorff y myfyrwyr
  • Swyddog Sabothol llawn amser a chefnogaeth staff
  • Cymorth ariannol i'r grŵp e.e. grantiau tymhorol, rafflau gwobr, cystadlaethau cenedlaethol ac ati.
  • Cyfleoedd hyfforddi achrededig a chyllid tuag at hyfforddiant allanol, e.e. cymorth cyntaf
  • Cyllid tuag at gyfleoedd hyfforddi a datblygu i unigolion, drwy'r Gronfa Addysg i Hyfforddwyr e.e. cymwysterau hyfforddi, cynadleddau, ac ati.
  • Adnoddau i hyrwyddo ar draws y campws ar gyfer gweithgareddau eich grwpiau
  • Cyngor a chymorth gyda threfnu digwyddiadau, pa gwmnïau i'w defnyddio, ac ati.
  • Cydnabyddiaeth a gwobr gwirfoddolwyr drwy Gwobr Aber
  • Mynediad at gyfleusterau y brifysgol a’r undeb, gan gynnwys llogi bysiau gwennol
  • Ymhlith llawer o fanteision eraill!

 

Being an Undeb Aber Student Group means you can make the most of the following benefits:

  • An annual slot at the Undeb Aber Fresher’s Fair
  • A customisable webpage on www.abersu.co.uk and an individual @aber.ac.uk email address to directly communicate with the student body
  • Full time sabbatical officer and staff support
  • Financial support for the group e.g. termly grants, prize draws, national competitions etc.
  • Accredited training opportunities and funding towards external ones, e.g. first aid
  • Funding towards training and development opportunities for individuals, through the Coach Education Fund e.g. coaching qualifications, conferences, etc.
  • Access to campus-wide publicity for your groups activities
  • Advice and support with organising events, which companies to use, etc.
  • Volunteer recognition and reward through the Aber Award
  • Access to university and union facilities, including minibus hire
  • Among many other perks!

 

Dechrau Clwb Chwaraeon / Cymdeithas

 

Cam 1

Llenwch y ffurflen Clwb / Cymdeithas Newydd.

Mae'r ffurflen yn gofyn i chi egluro beth fydd pwrpas eich grŵp, gan gynnwys o leiaf 10 myfyriwr/wraig a fydd â diddordeb mewn ymuno â'ch grŵp, a rhestru o leiaf dri aelod craidd y pwyllgor (Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd). Ar gyfer Clybiau Chwaraeon sy'n bwriadu cystadlu yn BUCS bydd angen aelod pwyllgor craidd ychwanegol o Gapten BUCS.

Yna bydd y Tîm Cyfleoedd yn adolygu eich cais. Byddwn yn gwirio addasrwydd eich grŵp i sicrhau:

  • Nid yw'n dyblygu grŵp myfyrwyr presennol
  • Nid yw'n cynnig unrhyw risg i enw da yr Undeb, a'r gymuned ehangach
  • Mae ei brif amcanion er budd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Ar ôl ei adolygu, byddwn yn cysylltu â chi gyda'r canlyniad o fewn pythefnos.

 

Cam 2

Ar ôl ei gymeradwyo, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich dogfennau craidd:

  • Cyfansoddiad
  • Cod Ymddygiad
  • Asesiad Risg
  • Rhestr Offer

Ar yr un pryd, byddwn yn creu asedau eich grŵp:

  • Tudalen we
  • E-bost Grŵp Myfyrwyr
  • Cyfrif Cyllid
  • Microsfot Teams

 

Cam 3

Cwblhewch hyfforddiant y pwyllgor. Mae hyn er mwyn eich hyfforddi a rhoi popeth sydd angen i chi ei wybod am redeg grŵp myfyrwyr a defnyddio asedau eich grŵp.

 

Cam 4

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant, rydych yn barod i fynd!

Gallwch ddechrau drwy:

  • Hysbysebu pwy ydych chi a dechrau denu aelodau
  • Cyfleusterau Archebu yr Undeb/Prifysgol
  • Gwneud cais am grant cychwynnol
  • Estyn allan am nawdd

Am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â rhedeg grŵp myfyrwyr, edrychwch ar Ganolfan Adnoddau Tîm Aber neu cysylltwch â'ch cydlynydd perthnasol!

 

Dechrau Prosiect Gwirfoddoli dan arweiniad Myfyrwyr

 

Cam 1

Llenwch y ffurflen Prosiect Gwirfoddoli dan Arweiniad Myfyrwyr newydd.

Mae'r ffurflen yn gofyn i chi egluro eich syniad prosiect a'r angen neu'r achos y mae'n mynd i'w gefnogi, yn ogystal â chynnwys enwau Prif Arweinydd y Prosiect, ac o leiaf un Arweinydd Prosiect arall sy'n barod i ddechrau'r prosiect.

Yna bydd y Tîm Cyfleoedd yn adolygu eich cais. Byddwn yn gwirio addasrwydd eich grŵp i sicrhau:

  • Nid yw'n dyblygu grŵp sy'n bodoli eisoes
  • Nid yw'n cynnig unrhyw i risg enw da yr Undeb, a'r gymuned ehangach
  • Gall gyflawni camau pendant neu gyfleoedd sy'n cefnogi angen neu achos teilwng
  • Gellir ei addasu ar gyfer gwirfoddolwyr eraill i ymuno â'r prosiect
  • Rydych yn meithrin cysylltiadau da gydag unrhyw randdeiliaid allanol (lle bo hynny'n berthnasol)

Ar ôl ei adolygu, byddwn yn cysylltu â chi gyda'r canlyniad o fewn pythefnos.

 

Cam 2

Ar ôl ei gymeradwyo, byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich dogfennau craidd:

  • Dogfen o Gyfrifoldebau
  • Cod Ymddygiad
  • Asesiad Risg
  • Rhestr Offer

Ar yr un pryd, byddwn yn creu asedau eich grŵp:

  • Tudalen we
  • E-bost Grŵp Myfyrwyr
  • Cyfrif Cyllid
  • Microsoft Teams

Os byddwch yn cydweithio ag elusen allanol, bydd angen i ni gofrestru'r elusen ar Wasanaeth Gwirfoddolwyr Undeb Aber a gweithio gyda chi i'w gynnwys yn y ddogfen cyfrifoldebau.

 

Cam 3

Cofrestrwch fel gwirfoddolwr a chwblhau Hyfforddiant Arweinydd y Prosiect. Mae hyn er mwyn eich hyfforddi a rhoi popeth sydd angen i chi ei wybod am redeg grŵp myfyrwyr a defnyddio asedau eich grŵp.

 

Cam 4

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant, rydych yn barod i fynd!

Gallwch ddechrau drwy:

  • Cyfarfod â'r Cydlynydd Gwirfoddoli i gefnogi datblygu gweithgareddau a syniadau digwyddiadau
  • Cyfleusterau Archebu yr Undeb/Prifysgol
  • Gwneud cais am grant cychwynnol
  • Estyn allan am bartneriaethau posibl

Am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â rhedeg grŵp myfyrwyr, edrychwch ar Ganolfan Adnoddau Tîm Aber neu cysylltwch â'ch cydlynydd perthnasol!

 

Mabwysiadu Grŵp Myfyrwyr

 

Grwpiau myfyrwyr yn mynd a dod, dyma eich cyfle i fabwysiadu un o'n grwpiau gwag a rhoi bywyd newydd iddo!

Os oes gennych ddiddordeb mewn mabwysiadu un o'r cymdeithasau hyn, cysylltwch â'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (suopportunities@aber.ac.uk) neu ymweld â ni yn y Swyddfa Cyfleoedd

Cymdeithasau

  • Cymdeithas Amnesty International
  • Y Gymdeithas Anglicanaidd
  • Y Gymdeithas Anifeiliaid a Milfeddygaeth
  • Y Gymdeithas Gelf
  • Y Gymdeithas Asiaidd
  • Cymdeithas Ddiwylliant Tsieina
  • Y Gymdeithas Gyfrifiadureg
  • Y Gymdeithas Syrcas
  • Y Gymdeithas b/Byddar
  • Y Gymdeithas Addysg
  • Cymdeithas Entreprenwrs/Enactus
  • Y Gymdeithas Ffeministaidd
  • Y Gymdeithas Ffrengig
  • Y Gymdeithas Eidalaidd
  • Y Gymdeithas Almaenaidd
  • Cymdeithas Fyfyrwyr Byd-Eang
  • Y Gymdeithas Pocer
  • Cymdeithas yr Ôl-Raddedigion
  • Y Gymdeithas Sbaenaidd
  • Y Gymdeithas Gynaladwyedd
  • Y Gymdeithas Llysieuol a Feganiaid (CymLlys)
  • Y Gymdeithas Ioga

Clybiau Chwaraeon

  • Aikido
  • Dartiau
  • Osgoi’r Bêl
  • Golff
  • Gymnasteg
  • Y Clwb Pen Ffordd
  • Parkour
  • Cwiditsh
  • Dan Ddŵr
  • Taekwando
  • Hoci Dan Ddŵr

 

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr (suopportunities@aber.ac.uk) neu ymweld â ni yn y Swyddfa Gyfleoedd.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576