Cymdeithasau a Prosiectau Gwirfoddoli
Mae cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl sydd â'r un diddordebau â chi, gwneud ffrindiau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd; hyn oll wrth ddatblygu eich cyflogadwyedd a chyfoethogi eich profiad yn y Brifysgol.
I ymuno â chymdeithasau, bydd rhaid i chi brynu Yswiriant Tîm Aber. Mae hyn yn daliad untro o £6, a fydd yn rhoi yswiriant personol i bob myfyriwr ar gyfer unrhyw weithgaredd UMAber. Unwaith i chi ei dalu, fe gewch chi gymryd rhan mewn cymaint o glybiau a chymdeithasau ag y mynnwch. Gellir chwilio am eich cymuned #TîmAber trwy fynd i’n rhestr o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau. Ni fydd angen yswiriant Tîm Aber arnoch chi i fod yn rhan o Brosiectau Gwirfoddol gan ei fod yn cael ei gynnwys tra’n cofrestru fel gwirfoddolwr.
Gweler y tudalennau ar gyfer y cymdeithasau unigol am fwy o fanylion ynghylch ffioedd aelodaeth. Mae ffioedd aelodaeth yn talu am aelodaeth sylfaenol o’r gymdeithas, ond mae’n bosib y bydd gofyn i chi gyfrannu tuag at gostau ychwanegol megis teithio a chyfarpar personol yn ystod y flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, cysylltwch â:
- All
- Hapchwarae, Diddordeb a Gwleidyddiaeth
- Ymgyrchoedd, Elusen a'r Amgylchedd
- Ffilm, Cyfryngau, Llenyddiaeth a’n Cefnogwyr Selog
- Perfformio a Cherddoriaeth
- Academaidd a Gyrfaoedd
- Ffydd a Diwylliant
- Prosiect Gwirfoddoli
- UMCA