Gyda mwy na 50 o glybiau chwaraeon i ddewis o'u plith, mae llwyth o gyfleoedd i gadw'n heini, gwneud ffrindiau, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. P'un a ydych chi'n chwilio am gystadleuaeth ddwys, adeiladu ffitrwydd, neu gyfranogi er mwyn yr ochr gymdeithasol o chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb!
Mae digon i gymryd rhan ynddo trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys BUCS, ’Nôl i Aber, Superteams, Rhyngolgampau Farsiti ac Aber 7s. Mae bod yn rhan o glwb chwaraeon yn Aberystwyth yn mynd i wneud eich profiad myfyrwyr yn un bythgofiadwy!
Profwch wir ysbryd Tîm Aber trwy ymuno â chlwb chwaraeon heddiw.
I ymuno â Chlybiau Chwaraeon bydd angen i chi brynu Yswiriant Tîm Aber, fel arfer codir ffi flynyddol o £6, ond eleni rydyn ni’r talu’r gost hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan mewn cymaint o gyfleoedd â phosib a dod o hyd i’ch cymuned Tîm Aber. Unwaith y byddwch chi wedi gwneud hyn, cewch ymuno â chymaint o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon ag y mynnwch.
Gweler tudalennau unigol y Clybiau Chwaraeon i gael mwy o fanylion am ffioedd aelodaeth. Bydd ffioedd aelodaeth yn cynnwys aelodaeth sylfaenol i bob clwb. Mae'n bosib y bydd gofyn i chi gyfrannu at gostau ychwanegol fel gwibdeithiau, offer personol a chostau teithio yn ystod y flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan cysylltwch â:
- All
- Awyr Agored
- Pel
- Dawns a Gymnasteg
- Raced
- Chwaraeon Dwr
- Athetau a Chrefftau Ymladd