Tîm Aber yw cymuned Clybiau Chwaraeon, Chymdeithasau a Prosiect Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth
Yma yn Aberystwyth, mae gennym ni dros 45 Clybiau Chwaraeon, 80 Cymdeithasu, a 5 Prosiect Gwirfoddoli sy’n cynnig cyfleoedd di-ben-draw i chi gyfranogi. P’un a ydych chi am gystadlu ar y lefel uchaf neu ond am gael tipyn o hwyl, gall dod yn rhan o gymuned Tîm Aber wneud eich profiad o fod yn fyfyriwr yn un bythgofiadwy!
I fod yn aelod o’n Clybiau Chwaraeon neu Gymdeithasau, yn gyntaf bydd angen i chi brynu yswiriant Tîm Aber. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth trwy glicio ar “Ymuno â Thîm Aber” isod!
Ymuno â Thîm Aber
I fod yn aelod o’n Clybiau Chwaraeon neu Gymdeithasau, yn gyntaf bydd angen i chi brynu yswiriant Tîm Aber.
Fel arfer codir ffi flynyddol o £6, ond eleni rydyn ni’r talu’r gost hon er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cymryd rhan mewn cymaint o gyfleoedd â phosib a dod o hyd i’ch cymuned Tîm Aber. Mae’r yswiriant yn darparu pob myfyriwr ag yswiriant personol ar gyfer unrhyw weithgaredd sy’n ymwneud â’r UM. Unwaith y bydd hwn gennych chi, gallwch gymryd rhan yng ngweithgareddau faint fynnwch chi o glybiau a chymdeithasau. Gweler y rhestrau o Glybiau a Chymdeithasau, ac ymunwch â chynifer ag y mynnwch.
Mae pob Clwb/Cymdeithas wedyn yn gosod eu ffi aelodaeth eu hunain. Gallwch ymuno â rhai clybiau am ddim; gall eraill ofyn i chi dalu ffi ar gyfer costau penodol. Gweler tudalennau unigol y Clybiau/Cymdeithasau am fwy o fanylion ynghylch eu dewisiadau o ran aelodaeth.
Yswiriant Dim yn Myfyriwr
Mae’r yswiriant hwn yn rhoi yswiriant damweiniau personol i’r rheini nad ydynt yn fyfyrwyr. Noder: mae ein polisi gwarantu ar gyfer myfyrwyr, felly efallai na fydd yn ddigonol ar gyfer y rheini nad ydynt yn fyfyrwyr ac sydd mewn cyflogaeth.
Ceir yma manylion llawn ar yr hyn mae’r polisi yn ei warantu.
Fel arall, mae croeso i chi gael eich yswiriant personol eich hunan a’i anfon yn dystiolaeth at undeb@aber.ac.uk