Gwirfoddolwch i fod yn rhan o'r Tîm A ar gyfer 2024/25!
Myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yw'r Tîm A sy'n croesawu myfyrwyr newydd ac yn eu helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Aberystwyth dros Wythnos y Glas, yn ogystal â chynnig cymorth mewn digwyddiadau mawr eraill gydol y flwyddyn.
Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr presennol sydd am rannu eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd dros bopeth yn Aber, yn ogystal â helpu Undeb y Myfyrwyr i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod Wythnos y Glas a'r tu hwnt iddi!
Mae yna ddigonedd o resymau i wirfoddoli fel rhan o’r Tîm-A:
- Teimlo’n falch o fod wedi helpu myfyrwyr i setlo i mewn i fywyd y Brifysgol
- Bwyd a diod am ddim yn ystod yr Wythnos Groeso ac wrth Wirfoddoli Wedi Nos
- Crys-T Tîm-A am ddim
- Mae’n edrych yn wych ar eich CV
- Yswiriant Tîm Aber am ddim
- Cewch gwrdd â myfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol
Disgrifiad o rôl y Tîm A: Wythnos Groeso
- Cwrdd â myfyrwyr a rhieni newydd (yn y dref ac ar y campws)
- Helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w llety a symud i mewn iddo
- Byddwch wrth law i ateb cwestiynau a chyfeirio myfyrwyr i lefydd ac at wasanaethau a gweithgareddau ar y campws
- Rhowch help i rai digwyddiadau allweddol fel Ffair y Glas, Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch, Seremonïau Croesawu, Digwyddiadau Rhyngwladol, a llawer mwy!
- Os yn gymwys, gyrru bws gwennol
- Dyfodiaid Rhyngwladol o Faes Awyr Birmingham
- Sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel yn y dref (tîm y nos)
- Helpu myfyrwyr sydd ar goll, yn flinedig neu'n emosiynol (tîm y nos)
- Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau lleol a mudiadau partner (tîm y nos)
Hanfodol: Hyfforddiant ac ymrwymiad amser
Er mwyn i chi ddeall eich rôl a chwrdd â gweddill y tîm, rhaid i bob gwirfoddolwr fynychu hyfforddiant ddydd mawrth 17 Medi (amseroedd i'w cadarnhau).
Yn ystod y Penwythnos Croeso (20–22 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 5 awr o'u hamser bob dydd i helpu gyda gweithgareddau a helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
Yn ystod y Wythnos y Glas (23-29 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 5 awr o'u hamser bob dydd i helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
Y tu hwnt i Gyfnod y Glas! Cymerwch ran yn y flwyddyn o’n blaenau...
Gydol gweddill y flwyddyn, bydd modd i chi helpu gyda llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill a chewch yr wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ar gael. Chi gaiff penderfynu faint o amser rydych chi'n ei ymroi a pha weithgareddau rydych chi'n eu dewis ar ôl Wythnos y Glas. Dewiswch y gweithgareddau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi!
Ymhlith y cyfleoedd UM eraill i wirfoddoli mae:
Sialens Aber || Superteams || Rygbi 7s || Ail Wyl y Glas || Varsity || Gwyl Cymdeithasau
SUT I YMGGEISIO
Llenwch y ffurflen isod gan sicrhau eich bod chi'n cyfeirio at y fanyleb person yn y cwestiynau perthnasol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'r Tîm A, mae croeso i chi holi.
Cliciwch yma i weld y ffurflen mewn ffenestr ar wahân