A ddylai Siop Undeb y Myfyrwyr gael gwerthu
papurau-newydd?
Mae'r pleidleisiau wedi cael eu casglu, eu cyfrif a'u cadarnhau! Derbyniwyd cyfanswm o 755* pleidlais, felly diolch i bawb fu'n cymryd rhan! Mae'r ymgyrch 'O blaid' wedi derbyn mwyafrif gyda 556 pleidlais o gymharu â'r ymgyrch 'Yn erbyn' a dderbyniodd 192 pleidlais, felly mae hyn yn golygu y caiff y polisi presennol 'Nid newyddion mo bronnau' ei ddileu. Caiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau'n fuan ar beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf! [*7 Ymataliadau]
Mae popeth rydych angen ei wybod am Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr gyntaf 2016 i'w weld ar y tudalennau hyn. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cadarnhau'r manylion olaf, a bydd y dadleuon gan yr ymgyrchoedd 'Dylai' a 'Na ddylai' ar gael yn fuan iawn.
Yn y cyfamser, dyma'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen ynglyn â sut mae Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn gweithio, dyddiadau allweddol a'r cwestiwn a ofynnir ar 4ydd Mawrth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, yna anfonwch e-bost at y tîm yn undeb.democratiaeth@aber.ac.uk.
|
Dyddiadau Allweddol:
- Dydd Llun 1af Chwefror, 6pm: Cyhoeddiad Swyddogol Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr, Cyfarfod Cyngor yr Undeb
- Dydd Gwener 4ydd Mawrth, 12pm: Dyddiad cau cofrestru ar gyfer yr ymgyrchoedd 'Dylai' a 'Na ddylai'
- Dydd Llun 7fed Mawrth, 10am: Ymgyrchu Swyddogol yn Dechrau
- Dydd Gwener 11eg Mawrth, 9am – 4pm: Cyfnod Pleidleisio
|