Pethau i’w gwneud cyn cyrraedd Aberystwyth
Cyn i chi ddod i Aber, mae ambell beth y buasem yn argymell cael gafael arnyn nhw, fel gallwch ddechrau ar fywyd myfyrwyr yn gwbl ddi-ffwdan...
|
Hoffwch neu dilynwch @UMAberSU ar eich hoff sianel cyfryngau cymdeithasol
Facebook, Twitter, Instagram and TikTok |
|
Ymunwch ag unig grwp glasfyfyrwyr swyddogol Aberystwyth ar Facebook
Drwy ymuno â'r grwp hwn, gallwch ddisgwyl; cysylltu a myfyrwyr newydd a'r rheiny sy'n dychwelyd i Aberystwyth - cyn i chi gyrraedd; canfod & rhannu gwybodaeth am fywyd yn y brifysgol; canfod gwybodaeth am clybiau chwaraeon a chymdeithasau. Cwrdd â phobl eraill fydd yn astudio ar yr un cwrs â chi a'r rheiny fydd yn byw yn yr un llety â chi. Ymunwch yma!
|
|
Gweithredwch eich cyfrif e-bost prifysgol
Dylech dderbyn e-bost gan y brifysgol gyda chyfarwyddiadau. Bydd angen y manylion mewngofnodi hyn arnoch i fewngofnodi i wefan UMAber er mwyn ymuno â chlybiau chwaraeon neu gymdeithasau.
|
|
Ymunwch â rhestr ohebiaeth clwb chwaraeon neu gymdeithas
Fel eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
|
|
Prynwch eich cerdyn TOTUM NUS
i wneud y mwyaf o ddisgowntiau myfyrwyr ar unrhyw beth y mae angen i chi ei brynu cyn i chi ddod i Aber.
|
|
Sut i Ymuno â chlwb a / neu gymdeithas - Os ydych chi eisoes yn gwybod eich bod chi am ymuno â chlybiau a chymdeithasau penodol? Gallwch wneud hynny ar-lein cyn i chi hyd yn oed gyrraedd, (ar werth o 1af Medi) - ond does dim brys i wneud hyn; gallwch ymuno ag unrhyw glwb neu gymdeithas gydol y flwyddyn, does dim ots gennym ni.
|
|
Gwiriwch ein cerdyn bws myfyriwr - Os ydych chi'n mynd i fod yn byw yn y dref (neu ddim yn hoffi elltydd) gwiriwch ein cynnig cerdyn bws i arbed ££oedd ar deithio ar fws yn ardal Aberystwyth. Rydyn ni wedi ymuno â chwmni bws lleol, Mid Wales Travel, i gynnig y fargen orau i chi ar gyfer teithio o amgylch Aberystwyth.
|
|
Mwynhewch y profiad!!
Cymerwch gipolwg ar yr hyn mae UMAber wedi’i drefnu ar gyfer cyfnod y Glas. A sicrhewch docyn ar gyfer ein digwyddiadau #HeloAber yma!
|