Dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a'n cymdeithasau yma ym Mhrifysgol Aberystwyth
Cyflwynir y wobr am y Cyfraniad Mwyaf gan Gymdeithas Elusennol i gymdeithas sy’n gysylltiedig ag elusen lle mae'r aelodau wedi rhoi cryn lawer o'u hamser at eu hachos gydol y flwyddyn, y ogystal â chodi swm sylweddol ar gyfer eu helusen.
Tickled Pink yw ein henillwyr eto am yr ail flwyddyn yn olynol. Nhw yw cymdeithas codi arian ac ymwybyddiaeth Prifysgol Aberystwyth ar gyfer yr elusennau CoppaFeel! a Breast Cancer Now. Maent yn grwp egnïol, creadigol ac angerddol o unigolion sy'n ymroddedig i helpu eraill. Gallwch ddarllen popeth am eu llwyddiannau’r llynedd trwy ddarllen yr erthygl yma.
Er gwaethaf yr heriau y mae'r grwp wedi'u hwynebu oherwydd COVID, nid yw eu hangerdd a'u hymdrech i wneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr Aberystwyth wedi pylu. Mae'r pwyllgor wedi bod yn greadigol, yn weithgar, ac yn barod i addasu, gan sicrhau nad oedd y rhwystrau roeddent yn eu hwynebu’n tarfu ar eu pwrpas craidd. Er nad oeddent yn gallu cynnal rhai o'u gweithgareddau blynyddol arferol fel meddiannu ardaloedd a’u partïon gliter, llwyddodd y gymdeithas i gynnal ystod eang o weithgareddau ar gyfer eu haelodau o hyd.
O'r cychwyn, addasodd y pwyllgor eu tactegau’n gyflym ar gyfer amgylchedd rhithwir, gan achub ar y cyfle i gysylltu'n hawdd â grwpiau myfyrwyr eraill. Mae eu ‘Hysgolion Bronnau' wedi bod yn boblogaidd, gyda sesiynau'n cael eu cyflwyno i dros 12 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, gan gyrraedd dros 80 o fyfyrwyr. Byddai pwyllgor Tickled Pink yn mynychu gweithgaredd rhithwir grwp arall ac yn rhoi cyflwyniad ar bwysigrwydd gwiriio bronnau a sut i wneud hynny. Byddai'r pwyllgor hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau a fyddai gan yr aelodau.
Mae eu cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn gyson weithredol, gan rannu deunydd addysgol yn rheolaidd ac atgoffa myfyrwyr i wneud eu gwiriadau. Buont hefyd yn gweithio gyda'u helusennau cysylltiedig i anfon negeseuon testun rheolaidd i atgoffa myfyrwyr i wneud eu gwiriadau. Maent hefyd wedi mynd ati i gynnal sesiynau cymdeithasol bob wythnos; mae'r gweithgareddau wedi cynnwys helfeydd sborion, ffilmiau, nosweithiau gemau, a mwy. Mae hyn wedi darparu cysondeb mawr ei angen i aelodau, gan roi cyfle iddyn nhw ddianc o'u hastudiaethau a'u bywydau cartref i ddod at ei gilydd mewn awyrgylch hamddenol a hwyliog.
Mae codi arian wedi bod yn un o'r mathau anoddaf o weithgareddau i grwpiau ei gynnal. Roedd yn rhaid i'r gymdeithas ddysgu ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl, yn enwedig yn ystod blwyddyn lle’r oedd prinder arian yn peri pryder i lawer o unigolion. Serch hynny, cynhaliodd y gymdeithas amryw o weithgareddau codi arian. Y prif un yw eu calendr noeth blynyddol, sy'n dod â llawer o'n clybiau chwaraeon a'n cymdeithasau at ei gilydd i godi arian at achos gwerth chweil. Cynhaliodd Tickled Pink hefyd amrywiaeth o loterïau, rafflau a heriau; pob un â gwobrau y gallai unigolion eu hennill wrth iddynt gyfrannu at elusen. Manteisiodd y gymdeithas hefyd ar ffurfiau goddefol o godi arian. Defnyddiwyd easyfundraising, gwefan sy'n troi siopa ar-lein bob dydd yr aelodau’n rhoddion am ddim.
Un o'r digwyddiadau codi arian yr oedd y panel yn ei hoffi’n fawr oedd eu Walkathon. Aeth eu haelodau ati i recordio eu teithiau cerdded a'u rhediadau, oedd yn gyfanswm o 515 milltir, sef y pellter rhwng Aberystwyth a phencadlys y ddwy elusen gysylltiedig.
Fel y gallwch weld, mae'r gymdeithas wedi gwir haeddu cadw eu teitl Cyfraniad Mwyaf i Elusen, maent wedi neilltuo llawer o'u hamser i ledaenu gwaith da eu helusennau cysylltiedig, tra hefyd yn codi arian ar eu cyfer. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth fydd Tickled Pink Aber yn ei gyflawni’r flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!
Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ddysgu mwy am Tickled Pink yma: