Gwobr Clwb y Flwyddyn yw'r wobr mae pawb yn eiddgar i'w hennill o fewn TîmAber. Caiff y wobr hon ei chyflwyno i'r clwb mwyaf llwyddiannus, ymroddgar a gweithredol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Roedd yna lawer o gystadleuwyr cryf ar gyfer y wobr hon, gyda nifer o glybiau yn mynd y filltir ychwanegol i ddarparu cyfleoedd i'w haelodau, cefnogi'r gymuned leol a chefnogi Teulu TîmAber.
Dangosodd Hoci’r Dynion, enillwyr y wobr eleni, eu bod yn haeddiannol trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, gan ennill 'Clwb y Mis' ym mis Tachwedd hefyd. Maent wedi gweithio'n anhygoel o galed eleni i fod yn gynhwysol, gan hyrwyddo materion cymdeithasol a chefnogi achosion elusennol lleol.
Y tymor diwethaf, roedd y clwb yn aml yn ei chael yn anodd ffurfio tîm, prin yn gallu sicrhau’r niferoedd oedd eu hangen ar gyfer gêm. Mae'n stori wahanol iawn eleni; mae'r clwb yn aml yn cael ei ganmol am ei gynhwysiant, ac wedi mwy na dyblu ei aelodaeth. Mae'r clwb wedi bod yn hynod weithgar ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol; mae pob postiad wedi bod yn ddwyieithog, a chaiff y wybodaeth ei diweddaru'n rheolaidd gyda gweithgareddau diweddaraf y clwb. Yn newydd ar gyfer eleni, ymunodd y clwb â chynghrair leol, yn ogystal â chystadlu yn y gynghrair BUCS maen nhw wedi bod yn rhan ohoni ers sawl blwyddyn.
'Un o'r prif resymau y mae hoci’r dynion yn haeddu ei ennill yw'r tro ar fyd aruthrol y mae'r clwb wedi'i gael ers y llynedd. O fod bron iawn yn methu â ffurfio tîm ar gyfer gemau, mae'r clwb wedi dyblu mewn maint, ac wedi cadw'r rhan fwyaf o'r aelodau a ymunodd ar ddechrau'r flwyddyn. Mae hyn yn glod i'r teulu rhyfeddol a pharod i dderbyn pawb a yw hoci. Wrth ymuno â'r clwb hwn, rydw i wedi gwneud ffrindiau am oes, ac wedi cael profiadau na fyddaf byth yn eu hanghofio. Mae hoci wir wedi bod yn uchafbwynt yn fy mhrofiad prifysgol.' - Enwebydd anhysbys
Cafodd y clwb dymor gwych yn eu cynghrair BUCS ac yn y Gynghrair ddydd Sadwrn De Cymru 3. Fe heriodd y clwb eu disgwyliadau eu hunain, gan orffen yn 4ydd digon parchus yng nghynghrair BUCS yn dilyn 'curo’r Coleg Amaethyddiaeth Brenhinol ddwywaith a chystadlu’r rhagorol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.'
Heb os, un o uchafbwyntiau blwyddyn y clwb oedd eu perfformiad yn y gynghrair leol. Roeddent yn ddiguro, gan orffen y tymor gyda dros 150 o goliau, a sicrhau dyrchafiad ar gyfer y tymor nesaf! Dechreuad gwych i'r tîm yn y gynghrair leol, a heb amheuaeth, cyflawniad rhagorol.
Mae Hoci’r Dynion wedi gweithio'n agos gyda'r gymuned trwy gydol y flwyddyn, ar ffurf ymgyrchoedd codi arian ac annog talent ifanc, yn ogystal â darparu cyfleoedd iddyn nhw chwarae mewn amgylchedd cystadleuol. Mae'r clwb wir wedi cryfhau ac wedi adeiladu ar eu perthnasoedd o fewn y gymuned. Nid yn unig y mae eu cyfranogiad yn y gynghrair wedi caniatáu iddynt greu perthnasoedd â chlybiau o bob rhan o Gymru (e.e. Gwent, Dysynni a Chaerfyrddin), a fydd yn parhau at y dyfodol, ond maent wedi rhoi cyfle i blant ysgol chwarae yn y gynghrair hon. Mae rhannu cyfleoedd a'u hangerdd am y gamp hon wedi bod o fudd cadarnhaol i berfformiad a hyder aelodau a phobl leol fel ei gilydd.
'Ers i mi ymwneud â thîm Hoci’r Dynion, mae pa mor groesawgar mae’r Clwb a'i swyddogion wedi bod i bawb sy'n chwarae hoci wedi creu argraff fawr arnaf. Nid yn unig i chwaraewyr y Brifysgol (y gallai rhywun ddadlau bod hynny o fantais bersonol iddyn nhw), ond i'r gymuned leol hefyd. Efallai nad yw’n hysbys o fewn y Brifysgol, ond mae’r Clwb yn mynd allan o’i ffordd i hyfforddi, dyfarnu a gwahodd chwaraewyr i ymarfer gyda nhw o’r ysgolion lleol a Chlwb Hoci Iau Bow Street. Er nad oeddent yn fyfyrwyr yn y Brifysgol, roedd yr unigolion hynny yn dal i deimlo eu bod yn perthyn. Roeddent yn cael eu parchu a'u hyfforddi fel aelod o'r gymuned hoci.' - Enwebydd anhysbys.
Gweithiodd y Clwb Hoci yn agos gyda chlybiau eraill, gan godi cyfanswm o £4,000 ar gyfer Mind Aberystwyth yn ystod y flwyddyn. Mae hon yn elusen y nododd sawl clwb chwaraeon ei bod yn darparu gwasanaeth pwysig i fyfyrwyr yn gynnar yn y flwyddyn, a gyda'i gilydd roeddent yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwasanaeth hwnnw a helpu i gefnogi'r elusen. Yn ogystal â hyn, mae'r clwb yn aml wedi gwirfoddoli yn Stordy Jubilee, gan weini a dosbarthu bwyd, yn ogystal â chyfrannu at yr elusen.
Mae’r clwb yn aml yn cael ei ganmol am ei gynhwysiant, ac eleni maent yn rhoi pwyslais ar godi ymwybyddiaeth ynghylch aelodau LHDTC+ mewn chwaraeon. Anogodd y clwb aelodau i wisgo careiau enfys i ddangos eu cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+, a buont yn gweithio gyda 'Stonewall' sy'n ymdrechu i greu diwylliannau cynhwysol a pharod i dderbyn, gan sicrhau bod sefydliadau'n deall ac yn gwerthfawrogi’r manteision enfawr a ddaw yn eu sgil.
'Pan gyrhaeddais i Aberystwyth, sylweddolais nad oedd unrhyw un yn siarad am hyn o gwbl, a doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw athletwyr gwrywaidd oedd yn agored am eu rhywioldeb. Ers i Glwb Hoci’r Dynion Aber ymuno â Stonewall, a chymryd rhan yn eu hymgyrch enfys, rwyf wedi cael pobl ddi-ri (o wahanol glybiau chwaraeon) yn dweud wrthyf eu bod wedi teimlo’n ofnus ynghylch 'datgelu' eu rhywioldeb nes iddynt weld yr hyn yr oedd CHD Aber yn ei wneud. Credaf fod hyn nid yn unig wedi newid y syniadau rhagdybiedig a allai fod gan fyfyrwyr ynglyn â rhywioldeb a chwaraeon, ond mae hefyd wedi ysbrydoli'r rheiny i fod yn hyderus yn eu cyrff eu hunain a bod yn falch o bwy ydyn nhw. Heb geisio swnio'n rhy ragfarnllyd, rwy'n hynod falch o CHD Aber am godi ymwybyddiaeth o fewn y gymuned LHDTC+’ - Enwebydd dienw.
Mae'r clwb hefyd yn parhau i ddatblygu ac mae’n darparu cyfleoedd i'w aelodau ar ffurf cyrsiau ar gyfer dyfarnwyr a hyfforddwyr. Mae dros ugain o aelodau wedi mynychu'r cyrsiau hyn ac wedi ennill cymwysterau dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd nid yn unig o fudd i'r clwb ond hefyd o gymorth i Dîm y Merched gyda'u gemau, yn ogystal â gwella hoci ledled Canolbarth Cymru.
'Mae'r clwb wedi rhoi'r nifer uchaf erioed o ddyfarnwyr trwy eu hasesiadau, gyda llawer ohonyn nhw ar fin ennill eu cymwysterau, unwaith y bydd y flwyddyn bandemig hon drosodd!' - Enwebydd anhysbys.
Mae Hoci’r Dynion wedi mynd y filltir ychwanegol eleni. Maent wedi wynebu heriau, fel colli’r astro turf ar y campws, sydd wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt deithio i Lambed ar gyfer eu holl gemau 'cartref'. Mae'r clwb wedi bod yn gweithio'n galed i ddatrys yr her hon, gan gwrdd yn rheolaidd â sefydliad Hoci Cymru a mynychu cynadleddau yn Llundain a Llambed. Maent hyd yn oed wedi gosod cynllun datblygu ar gyfer y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod y 'y clwb yn gweithredu’n llwyddiannus yn y dyfodol'.
Amlygodd llawer o’r enwebiadau lwyddiannau'r clwb trwy gydol y flwyddyn, gan ganmol gwaith caled un aelod yn benodol, Luke Archer (Llywydd). 'Roedd y croeso a’r ymagwedd gynhwysol a ddangoswyd gan y Clwb yn glod i'r Clwb a'i swyddogion. Mae'r ysbryd cadarnhaol, o ran llwyddiant ar y maes chwarae a chyflawniadau elusennol (yn enwedig ar gyfer Mind) wedi bod yn aruthrol, ac i raddau helaeth oherwydd arweinyddiaeth Luke.' Mae'r cynnydd a'r datblygiadau y mae'r clwb wedi'u cyflawni eleni wedi bod yn rhagorol, ac yn dyst i arweinyddiaeth, cymhelliant ac ysbrydoliaeth Luke.
Llongyfarchiadau Hoci’r Dynion! Rydych chi'n enillwyr haeddiannol iawn o wobr 'Clwb y Flwyddyn' 2020!