Cafodd Eisteddfod Ryng-golegol 2025 ei chynnal yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth dros benwythnos Gŵyl Dewi, gyda dros 700 o fyfyrwyr o brifysgolion Cymru yn heidio i Aberystwyth i fwynhau’r cystadlu.
Llongyfarchiadau anferthol i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth am benwythnos lwyddiannus iawn yn gwesteio’r digwyddiad eleni ac am ddod i’r brig am yr ail mlynedd yn olynol.
Yr Eisteddfod Ryng-golegol ydi un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru sy’n teithio o amgylch prifysgolion Cymru o gwmpas diwedd mis Chwefror bob blwyddyn. Mae’r myfyrwyr yn cynrychioli eu prifysgol mewn amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref (ambell i gystadleuaeth eisteddfodol traddodiadol megis canu cerdd dant a llefaru ac ambell gystadleuaeth hwyliog megis ‘bing bong’, deuawdau doniol ayyb) i ennill y mwyaf o farciau, a tarian yr Eisteddfod.
Diolch o galon i’n holl noddwyr eleni, yn enwedig i brif noddwyr yr Eisteddfod BBC Radio Cymru 2 am gefnogi’r digwyddiad a rhoi radio digidol fel rhodd i enillwyr prif gystadlaethau’r dydd.
Diolch hefyd i holl feirniaid, dyfarnwyr ac arweinyddion y penwythnos, rydym wir yn gwerthfawrogi eich amser a’ch arbenigedd.
Diolch yn fawr iawn i’r Ffotograffydd Emily Janine am luniau’r penwythnos, dyma gipolwg o’r diwrnod:
Cystadlu
Cafwyd wledd o gystadlu yn y Neuadd Fawr ar ddydd Gwyl Dewi

Efa Fychan yn cipio'r wobr gyntaf yn yr Unawd Sioe Gerdd.

Band Cegin Prifysgol Aberystwyth

Côr SATB Prifysgol Aberystwyth
Cadeirio a’r Coroni
Llongyfarchiadau i un o fyfyrwyr Aberystwyth, Rebecca Rees am gyflawni’r gamp ddwbl gan ennill y gadair a'r goron eleni.

Cafodd y goron ei rhoi am ryddiaith ar y testun “Dychwelyd” a’r beirniad oedd Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Archdderwydd yr Eisteddfod genedlaethol.
A cystadleuaeth cerdd ar y thema “Newyddion” oedd cystadleuaeth y Gadair a’r beirniad oedd Dr Eurig Salisbury, bardd a darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Arweiniwyd y seremoni Cadeirio a’r Coroni gan Yr Athro Mererid Hopwood a Dr Eurig Salisbury.
Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Pantyfedwen am noddi’r goron a’r gadair eleni. A diolch i Elen Bowen am greu y goron hardd ac i Robyn Davies am ddylunio’r gadair eleni.

Canlyniadau’r penwythnos
Llongyfarchiadau ir holl fyfyrwyr fuodd yn cynrychioli eu Prifysgol eleni yn enwedig i’r canlynol am ddod ir brig yn rhai o brif gystadlaethau’r dydd:
- Enillydd cadair a choron yr Eisteddfod – Rebecca Rees, Prifysgol Aberystwyth.
- Tlws y Cerddor – Ela Roberts, Prifysgol Bangor.
- Y Fedal Ddrama – Gwen Down, Prifysgol Bangor.
- Y Fedal Wyddoniaeth – Alys Jones, Prifysgol Aberystwyth.
- Y Fedal Gelf - Nanw Maelor, Prifysgol Aberystwyth.
- Medal y Dysgwyr – Joe Morgan, Prifysgol Abertawe.
*Diolch i Siop Inc, Aberystwyth am noddi’r holl dlysau eleni.
Cipiwyd y Cwpan Chwaraeon gan Brifysgol Caerdydd eleni.
A Prifysgol Aberystwyth enillodd y Darian Eisteddfod Ryng-golegol 2025 eto eleni am gasglu’r nifer fwyaf o bwyntiau dros gyfnod y penwythnos o’r chwaraeon i’r cystadlaethau gwaith cartref ac wrth gwrs heb anghofio cystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod.

Myfyrwyr Aberystwyth yn dathlu ennill yr Eisteddfod Ryng-golegol am yr ail flwyddyn yn olynol
Dywedai Elain Gwynedd, Swyddog Materion Cymreig Undeb Aberystwyth a Llywydd UMCA:
“Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor falch ‘da ni yma’n Aberystwyth i gael cadw’r darian am yr ail flwyddyn yn olynol, yn enwedig gyda’r Eisteddfod ar ein patch ni ein hunain. Diolch o galon i holl aelodau UMCA am eu hymroddiad dros yr wythnosau diwethaf ac i arweinyddion a chyfeilyddion Aelwyd Pantycelyn am eu gwaith diflino. Ymlaen i Gaerdydd yn 2026 er mwyn cipio’r darian am y hatric!
Ar ôl diwrnod prysur o gystadlu, daeth oddeutu 700 o fyfyrwyr i ddathlu penwythnos lwyddiannus mewn gig yng Nghlwb Nos Academi gyda Tewtewtennau, enillwyr Cân i Gymru 2025 Dros Dro a Bwncath yn perfformio!”
Albwm lluniau’r dydd ar gael ar dudalen Facebook UMCA:
https://www.facebook.com/media/set?vanity=UMCAberystwyth&set=a.968212675444985
(mwy o luniau i ddilyn yn fuan)