Streiciau’r UCU
Yn sgil y diffyg penderfyniadau wedi trafodaethau ers y streiciau cynt, mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi galw am ail gyfnod o weithred ddiwydiannol. Gyda’r streiciau cyntaf yn digwydd yr wythnos hon, dyma grynodeb o’r hyn sydd ar y gweill a ble y gellir cael rhagor o wybodaeth.
Dyddiau y streiciau:
- Wythnos 1: Mercher 1 mis Chwefror
- Wythnos 2: Iau 9 a Gwener 10 mis Chwefror
- Wythnos 3: Iau 14 i Iau 16 mis Chwefror
- Wythnos 5: Mawrth 21 i Iau 23 mis Chwefror
- Wythnos 5: Llun 27 Chwefror i Iau 2 mis Mawrth
- Wythnos 6: Dim gweithredu diwydiannol wythnos 6 mis Mawrth
- Wythnos 7: Iau 16 a Gwener 17 mis Mawrth
- Wythnos 8: Llun 20 i Fercher 22 mis Mawrth
Gall y streiciau beri i ddarlithoedd gael eu canslo yn ystod y dyddiadau uchod ac efallai na fyddant yn cael eu haildrefnu na’u huwchlwytho i Panopto. Nid oes disgwyl unrhyw foicotio marcio neu asesiadau yn ystod y dyddiadau hyn.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn ag ymuno â’r Linellau Piced neu ynglyn â’r streiciau yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu ag UCU Prifysgol Aberystwyth: ucu-aber@aber.ac.uk.
I ddeall eich hawliau’n well, mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi rhoi canllaw at ei gilydd i chi ei ddarllen yma (yn uniaith Saesneg): officeforstudents.org.uk/for-students/student-rights-and-welfare/student-guide-to-industrial-action/
Bydd UMAber a’n gwasanaethau yn dal ar agor yn ystod y streiciau hyn. Nid oes gan Undeb y Myfyrwyr safbwynt gwleidyddol tuag at y streiciau hyd yn hyn. Os ydych chi eisiau i Undeb y Myfyrwyr gymryd safbwynt gwleidyddol, rydym yn annog i chi gyflwyno syniad i ni am y safbwynt y dylem ni gymryd trwy ein gwefan Syniadau erbyn 12pm Chwefror 6ed: https://www.umaber.co.uk/newidaber/eichsyniadau/.