Sbotolau ar Paige - Cydlynydd Chwaraeon

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!


Sbotolau ar Paige - Cydlynydd Chwaraeon

Dwi’n fam falch i fod dynol bach a babi blewog. Dwi’n mwynhau stôr-watsho cyfresi teledu difyr a chwarae gemau bwrdd strategol fel Othello a Checkers. Er na ches i fy ngeni yng Nghymru, dwi’n byw yma ar hyd fy oes. Mae gen i radd gyntaf mewn Rheoli Digwyddiadau a snacio yw fy ngwendid i.

Ble mae dy gartref? 

Y dref gyntaf ar lan yr Hafren ❤️

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Does dim curo Stwnsh a Chabaitsh (sbariwns cinio Nadolig) 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Heblaw am fod yn fam, dwi wrth fy modd gyda sgetio iâ! Dwi’n ei weld yn llesol iawn! 

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Mae’r arfordir ar stepen drws ein swyddfeydd, beth gewch chi well!! 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Debygol o fod yn y diwydiant priodas!! Dwi wrth fy modd 100% ❤️

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?

Es i Brifysgol Caerdydd ac ystod fy amser yno, bues i’n rhan o’r Clwb Pêl-rwyd ac yn fy mlwyddyn olaf fi oedd Ysgrifenyddes Gymdeithasol y Pwyllgor. Yn ogystal â hynny, fi oedd Prif Gynrychiolydd Academaidd fy nghwrs, felly mae gen i syniad bras o sut beth yw cyfathrebu gydag Undeb Myfyrwyr cyn i fi ddechrau yma yn Aberystwyth. 

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: 

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl fy mod i’n siafio fy ael mewn gwirionedd craith yw hi a ges i yn 7 oed yn esgus bod yn seren roc a sleifio mor galed ar lawr ar fy mhengliniau y trawais gornel wal. Dwi wedi colli’r awydd i fod yn seren roc ers hynny!! 

Pam wnaethoch chi ymuno â'r tîm?

I fod yn rhan o gymuned 😊

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576