Sbotolau ar Lucie - Pennaeth Cyfleodd Myfyrwyr

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf 


Spotolau ar Lucie Gwilt - Pennaeth Myfyrwyr Cyfleoedd 

Person prysur iawn nad yw’n hoff o aros yn llonydd am yn rhy hir. Y tu allan i’r gwaith a bywyd teuluol dwi’n mwynhau chwarae chwaraeon a gwirfoddoli fy amser gyda chlybiau a sefydliadau lleol. Dwi’n angerddol iawn am ddatblygu chwaraeon menywod a merched a sicrhau bod croeso i bawb. Dwi hefyd wedi cael fy ethol yn Gynghorydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru; yn cynrychioli pêl-droed y menywod yng Ngogledd Cymru, sydd wedi rhoi i fi gyfle perffaith i ddylanwadu ar y gêm o lefel arall.

 

Ble mae dy gartref?

Ces i fy magu mewn pentref o’r Cegidfa, ger y Trallwng yng Nghanolbarth Cymru. Wedi i fi fyw yn Aberystwyth ers y Brifysgol, dwi wedi symud yn ôl yn ddiweddar ac yn cymudo i’r gwaith.

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Dwi wrth fy modd gyda bwyd sbeislyd; bwyd Thai ac Indiaidd yn benodol. Fe fyswn i’n fodlon iawn cael Pad Thai Corgimychiaid  mawrion neu Tikka Madras Cyw Iâr fel fy mhryd olaf!

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Ar wahân i dreulio amser gyda fy nheulu, a’m merch ifanc yn benodol, Libby, person gweithgar sy’n gwirioni ar chwaraeon ‘dwi. Dwi’n chwarae llawer o bêl-droed, yn mwynhau mynd am dro hir bob dydd gyda’m ci, Cooper.

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Dwi’n athrawes Ysgol Gynradd gymwysedig (fe wnes i TAR ym Mangor *ssh*) felly debyg mai athrawes fyswn i.

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Dwi wrth fy modd a darparu ein digwyddiadau pwysig ee Sialens Aber, Superteams, Varsity, ac Aber7s – maent yn gofyn am lawer o ymroddiad a gwaith caled fel tîm, ond braf bob tro yw gweld y gwaith hwnnw yn dwyn ffrwyth pan welwn ni y myfyrwyr yn mwynhau eu hunain a chael adborth cadarnhaol.

 

Mae UMAber... Rhywle lle gall myfyrwyr helpu llywio eu hamser yn y Brifysgol, ond yn bwysicach fyth, gwella eu profiad myfyrwyr trwy gymryd rhan mewn grwpiau myfyrwyr a digwyddiadau a gweithgareddau hwyliog!

Nid yw UMAber… yn far

 

Nid yw'r Haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf? 

Yr haf yw ein cyfle ni i fwrw ymlaen gyda’r flwyddyn academaidd newydd. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cyflwyno ein hyfforddiant pwyllgor blynyddol, a sicrhau bod prosiectau clybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli yn barod at Gyfnod y Croeso a’r tu hwnt pan ddaw mis Medi. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n galed ar drefniadau cyntaf ar gyfer rhai o’n digwyddiadau pwysig at 2024-25 dyma fawr obeithio y cawn ni lwyddiant ysgubol unwaith eto.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576