Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!
Jessica Eades - Cydlynydd Gwerthiannau Cyfryngau a Digwyddiadau
Ble mae dy gartref? Aberaeron
Graddiais i yn 2019 o Brifysgol John Moores Lerpwl gyda gradd mewn Rheoli Digwyddiadau ac es i ymlaen wedyn i astudio gradd feistr mewn Busnes a Marchnata Rhyngwladol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dwi’n angerddol iawn am ddadlau dros gynaladwyedd ac amddiffyn ein moroedd.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
PIZZA
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Codi gwydr o’r môr, crwydro traethau, mabwysiadu planhigion, darllen a gwelwch chi fi yn yr eglwys ddydd Sul.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Tref brifysgol fywiog yw hon ac does dim curo ei golygfeydd o’r môr – yn enwedig pan ddaw’r awr euraidd.
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Trefnydd partïon plu
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Yn ystod 2021-2022, treuliais i 12 mis fel intern graddedig ym Mhrifysgol Caerwysg yn asesu ceisiadau am y gronfa caledi gan wahanol grwpiau myfyrwyr. Roedd y rôl hon yn agoriad llygad i ba mor llym y gall fod ar wahanol grwpiau myfyrwyr a phrofiad gwerthfawr oedd gallu cynnig cymorth iddynt. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at chwarae rhan fawr mewn trefnu profiadau bythgofiadwy i fyfyrwyr yn Undeb Aberystwyth a fydd yn croesawu pawb fel na fydd neb colli cyfle.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni:
Dwi’n perthyn i Charles Babbage ( y dyn ddatblygodd gysyniad y cyfrifiadur).
Pam wnaethoch chi ymuno â'r tîm?
O’n i eisiau bod yn rhan o dîm a all gynnig cyfleoedd gwahanol i fyfyrwyr a’u cefnogi yn ystod eu hamser yn Aberystwyth.