Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!
Jacob Webb - Pennaeth Llais y Myfyrwyr
Ble mae dy gartref?
Dyma gwestiwn dwfn ac athronyddol.... Ces i fy magu ym Malvern, Swydd Gaerwrangon ond bellach yn byw yn Aberystwyth – ac dwi’n caru’r lle!
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Rhywbeth i fy nghadw i fynd nes fy mod i’n cyrraedd planed y mae modd byw ynddi... ar wahân i jocan, bydda’ i bob tro yn hoff o fwyta biriani llysieuol gyda bara naan.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Y tu allan i’r gwaith, dwi’n rhedwr brwd ac yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau creadigol fel corau, gwersi paentio, a grwpiau improfeisho comedi.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Mae yna gymaint i’w garu am fyw a gweithio yn Aberystwyth! Heblaw am y manteision amlwg o fyw ger y môr a natur gerllaw, dwi’n caru’r ffaith bod gan Aber ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous ar droed trwy gydol y flwyddyn.
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Ro’n i’n hoff o’r syniad o fod yn gantor/ysgrifennwr caneuon proffesiynol ers erioed. Ro’n i’n perfformio llawer o fy ngherddoriaeth fy hun yn fy arddegau a chyrraedd rownd terfynol cystadleuaeth dalent fy ysgol nifer o weithiau hyd yn oed. Yn anffodus, ches i erioed fawr o lwc o hynny ymlaen.....
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Pan yn astudio ym Mhrifysgol Efrog, cymerais i rôl wirfoddol yn Swyddog yr Amgylchedd a Moeseg. Yno gweithiais i gynyddu’r opsiynau figanaidd ar gael yn y ffreuturau, a chyflwyno polisi i’r Undeb gael gwared ar fagiau plastig.
Cyn gweithio yn Undeb Aberystwyth, bues i’n gweithio am dair blynedd fel y Cydlynydd Cynrychiolaeth a Pholisi yn Undeb Myfyrwyr Brunel, yn goruchwylio ei Brosiect Cynrychiolwyr Academaidd, yn cefnogi swyddogion etholedig a gweithio ar amryw o dasgau ynghlwm â polisïau.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni:
Er y gall fod yn anodd ar brydiau, ffan Manchester United brwd ‘dwi!
Pam wnaethoch chi ymuno â'r tîm?
Des i yn rhan i gymryd rôl gyffrous, mewn sefydliad blaengar ei naws, mewn lle hardd ac unigryw.