Sut rolau gwirfoddol sydd ganddoch chi? Neu wedi’u mwynhau fwyaf?
|
Ar hyn o bryd, Cynrychiolydd Academaidd Economiaeth Blwyddyn 1. Bues i gynt yn pennaeth fy ngrŵp yn ystod y 6ed dosbarth a gwirfoddoli am 6 mis yn Hospis Saint Catherine. Roedd pob un yn brofiad braf iawn ac wedi cyfrannu at feithrin sgiliau meddal.
|
Pam wyt ti’n gwirfoddoli?
|
I fi, mae gwirfoddoli yn teimlo fel defnydd gwych o’m hamser ac yn gadael i fi roi yn ôl i’m cymuned. Hyfryd hefyd yw cwrdd â phobl o’r un anian!
|
Pa foment oedd eich uchafbwynt o fod yn wirfoddolwr/wraig?
|
RYn y 6ed dosbarth, cymerais ran yn “Llais y Myfyrwyr”, a oedd gyfle i siarad gyda myfyrwyr iau a datrys problemau yn yr ysgol. Mae’r profiad hwn yn eithaf tebyg i gyfarfodydd cynrychiolwyr.
|
Pa fuddion ydych chi wedi’u hennill fel gwirfoddolwr/wraig?
|
Cinio am ddim, ffrindiau newydd, a rhywbeth i’w roi ar y CV.
|
At ba rolau gwirfoddol ydych chi’n edrych ymlaen?
|
DDwi heb ddarganfod cyfleoedd gwirfoddol y tu hwnt o fod yn gynrychiolydd academaidd, ond dwi’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y dyfodol.
|
Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth
|
Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi
Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill
I ganfod mwy, ewch i: www.umaber.co.uk/gwirfoddoli |