Sbotolau ar Gwirfoddolwyr Myfyrywr: Lucy Seabourne

GwirfoddoliwelshWGMWythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Sut rolau gwirfoddol sydd ganddoch chi? Neu wedi’u mwynhau fwyaf?

Dwi yn yr A-Tîm, yn gynrychiolydd ac yn aelod pwyllgor myfyrwyr Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynwysoldeb Cyfrifiadureg, ac yn Swyddog Llesiant Hoci’r Menywod.

 

Pam wyt ti’n gwirfoddoli?

Dwi’n gwirfoddoli er mwyn i eraill fwynhau eu hamser yn y brifysgol ac oherwydd ei fod yn hwyliog. Trwy wirfoddoli, dwi wedi cwrdd â llawer o bobl newydd a gobeithio bod hynny, yn ei dro, wedi rhoi llais i’r rheini a fyddai’n cael eu hanwybyddu fel arall.

 

Pa foment oedd eich uchafbwynt o fod yn wirfoddolwr/wraig?

Gweld fy ngwaith yn cael argraff gadarnhaol. Er enghraifft, tra’n rhoi help llaw gyda’r A-Tîm yn ystod Penwythnos y Croeso, fe welais fod pobl yn teimlo’n gartrefol wrth weld wyneb cyfeillgar a chael ateb i’w cwestiynau.

 

Pa fuddion ydych chi wedi’u hennill fel gwirfoddolwr/wraig?

Dwi wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu, ennill mwy o hyder, a chael chwerthin cymaint, yn enwedig yn ystod penwythnos y Superteams, ac yn arbennig tra’n helpu gyda’r Digwyddiad Dirgel.

 

At ba rolau gwirfoddol ydych chi’n edrych ymlaen?

Gwirfoddoli ym Mhenwythnos y Superteams eto.

 

Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth

Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi

Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill

I ganfod mwy, ewch i: www.umaber.co.uk/gwirfoddoli

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576