Sut rolau gwirfoddol sydd ganddoch chi? Neu wedi’u mwynhau fwyaf?
|
Eleni dwi wedi bod yn Llywydd ar ddwy gymdeithas: Hoci’r Dynion a Chantorion Madrigalau Elisabethaidd
|
Pam wyt ti’n gwirfoddoli?
|
Dwi’n gwirfoddoli oherwydd fod y ddau glwb o bwys mawr i fi. Pwysig hefyd yw sicrhau dyfodol i dreftadaeth y Madrigalau a Hoci’r Dynion. Mae cerddoriaeth yn fodd braf o’ch mynegi eich hun a chael hwyl. Mae hoci yn cynnig cyfle arbennig i wneud ffrindiau newydd. Boed dros beint neu ar yr astro, mae yna lawer o hwyl i’w gael.
|
Pa foment oedd eich uchafbwynt o fod yn wirfoddolwr/wraig?
|
Rhaid dweud mai trefnu cyngerdd Nadolig llwyddiannus fyddai fy uchafbwynt. Roedd Eglwys y Drindod dan ei sang a chaed noson hyfryd o gerddoriaeth i godi’r galon. Cawsom ein canmol i’r cymylau ac rydyn ni am barhau â’r llwyddiant hwn eleni, a’r blynyddoedd i ddod.
|
Pa fuddion ydych chi wedi’u hennill fel gwirfoddolwr/wraig?
|
Er y gall y cyfle i arwain grŵp fod yn her, os ydych chi’n eich bwrw eich hun iddi, cewch ddysgu cymaint o sgiliau gwych. O ran bod yn arweinydd, amynedd piau hi. Dwi wedi dod i ddeall bod hyn yn hollbwysig.
|
At ba rolau gwirfoddol ydych chi’n edrych ymlaen?
|
Dwi’n edrych ymlaen yn bennaf at drefnu ein cyngerdd yn 75 oed. Mae am fod yn gyngerdd arbennig, gyda cherddoriaeth wych. Alla’ i ddim aros!
|
Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth
|
Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi
Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill
I ganfod mwy, ewch i: www.umaber.co.uk/gwirfoddoli |