Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!
Felix Parker-Price - Cyfieithydd Undeb Aber
Shwmae! Felix ‘dwi a fi yw Cyfieithydd Undeb Aber. Fe ddes i Aberystwyth yn 2013 i wneud Astudiaethau Celtaidd lle dysgais i’r Gymraeg, yr Wyddeleg a thipyn o Lydaweg. Es i ymlaen wedyn i astudio ym Mhrifysgol Brest, Llydaw lle ces i’r cyfle i ddysgu Ffrangeg a mireinio fy Llydaweg ond o achos cymhlethdodau brexit a’r pandemig bu rhaid i fi ddychwelyd i’r DU cyn cael cynnig gwaith yma yn Aber.
Ble mae dy gartref?
Er taw cyfieithydd Cymraeg ‘dwi... dwi’n dod o Sheffield, Gogledd Lloegr yn wreiddiol. Des i Aberystwyth tuag 11 mlynedd ‘nôl a dysgu’r Gymraeg.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Cinio Sul, gyda’r holl drimins neu bei, pys a grefi er fy mod i’n hoff iawn o ddiwylliannau bwyd eraill.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Dwi wrth fy modd yn rhedeg, nofio a mynd am dro hir. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth werin ac yn ei chwarae yn aml gydag eraill mewn tafarn leol. Ar ben hynny dwi’n ieithydd brwd ac wrth fy modd yn siarad, darllen, astudio a gwrando ar yr ieithoedd dwi’n eu dysgu.
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?
Anodd peidio â chymryd at Aberystwyth a chan fy mod wedi astudio yma oedd dychwelyd i Aber weithio wedi cyfnod i ffwrdd yn Llydaw ac yna Lloegr yn ddewis hawdd pan gododd y cyfle. Mae digon i’w wneud yma gyda thafarndai da, gigs rheolaidd a llefydd naturiol hardd.
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Debyg yn rhyw fath o diwtor iaith, cyfieithydd llaw-rydd neu beth bynnag sydd i’w gael...
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Trwy gydol fy is-radd bues i’n aelod o Gymdeithas Myfyrwyr Celtaidd Iwerddon a Phrydain, cynhadledd a deithiodd bob blwyddyn ledled y gwledydd Celtaidd. Yn fy mlwyddyn gyntaf bues i’n rhan o’r Gymdeithas Gymraeg Ail-iaith lle gwnes i lawer o ffrindiau da a’m helpodd ar hyd fy nhaith ddysgu ac fe fyswn i’n cefnogi digwyddiadau cymdeithas Llydaweg Prifysgol Brest pan fues i’n astudio acw.
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni:
Wel.. nid Cymro mohonof i er yn gyfieithydd Cymraeg... Dwi hefyd yn siarad tua 6 iaith at ei gilydd (ond yn amrywio o ran gallu) ; Saesneg (mamiaith), Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Manaweg ond yn dysgu Basgeg ac dwi gyda gafael gwan ar Wcraineg hefyd.
Pam wnaethoch chi ymuno â'r tîm?
Erbyn i fi orffen fy ngradd feistr o bell (byw yn Lloegr ar y pryd er bod y brifysgol yn Llydaw) fe ddechreuais i weithio fel cyfieithydd llaw-rydd a hithau yng nghanol yr ail gyfnod clo. Enillais i rywfaint o brofiad a fu o fudd mawr cyn ymgeisio am y swydd hon yma yn Aber. Doedd dychwelyd i Aber ddim yn ddewis amlwg i fi yn gyntaf ond yn un hawdd gan fod gen i gymaint o gariad at y lle ac dwi’n awyddus i gyfrannu at sicrhau bywyd Cymraeg bywiog i bawb yma yn y Brifysgol.