Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!
Sbotolau ar Emily - Cydlynydd Gwerthiant Cyfryngau a Digwyddiadau
Ble mae dy gartref? Y Cei Newydd
Dwi’n 27 ac yn fyfyrwraig yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Aber! Dwi hefyd gyda fy musnes fy hun fel ffotograffydd ac yn trefnu sioeau a chyfarfodydd ceir lleol.
Yn fy ychydig fisoedd cyntaf dwi’n gobeithio trefnu helpu Cyfnod y Croeso a digwyddiadau eraill llwyddiannus.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Dyma ateb penodol iawn ond y byrgyr cyw iâr o fwyty yr Old Boys and Girls yn Aberteifi gyda’i doesen ffa tonca.
Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?
Mynd am dro gyda fy nghi Kiwi a mynychu/trefnu digwyddiadau ceir!
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Yn fyfyrwraig dlawd!! Hahaha yn debygol o ennill bywoliaeth drwy ffotograffiaeth a gwaith ceir!
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Fe ges i fy nghyflogi i dynnu lluniau yn fyfyrwraig a gweithio yn y tîm Cyfleoedd Myfyrwyr am 2 fis fel rôl GyrfaoeddAber a dyna hi!!
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni:
Es i wirfoddoli draw yn Nhanzania am 3 wythnos pan o’n i’n 16!
Pam wnaethoch chi ymuno â'r tîm?
Des i’n aelod achos dwi wrth fy modd yn trefnu a helpu gwneud gwahaniaeth a ches i gymaint o amser braf yn gweithio gyda thîm yr Undeb y tro diwethaf.